National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
Mewn Print
 
 

DEWCH, DARLLENWCH – MAE’N DDIWRNOD Y LLYFR YNG NGHYMRU
 
Bydd yr ymdrech fwyaf erioed i hyrwyddo llyfrau a darllen yn cychwyn yr wythnos nesaf er mwyn paratoi ar gyfer Diwrnod y Llyfr – 14 Mawrth 2002. Bydd miloedd o bobl o bob oed ledled Cymru’n cymryd rhan mewn cannoedd o weithgareddau a gaiff eu cyd-drefnu gan Gyngor Llyfrau Cymru. Mae pawb – o sêr y teledu i aelodau o Ferched y Wawr, o ysgolion a llyfrgelloedd i academyddion blaenllaw – yn ymuno yn yr ymgyrch genedlaethol i hyrwyddo’r gair ysgrifenedig.

Ar strydoedd trefi trwy Gymru benbaladr bydd posteri’n hysbysebu’r Diwrnod, mae tudalennau arbennig wedi’u creu ar y wefan  - www.cllc.org.uk, bydd cyfres o ddarlleniadau ar y radio a’r teledu ac erthyglau ym mhrif bapurau newydd a chylchgronau Cymru. Comisiynwyd dwy gerdd newydd, y naill yn y Gymraeg a'r llall yn Saesneg, i fod yn ganolbwynt y parti barddoniaeth mwyaf erioed a ddarlledir ar Radio Wales rhwng 10.30 am a 10.45 am ac ar Radio Cymru am 11.10 am. 
 
Mae pob ysgol yng Nghymru wedi cael posteri lliwgar â’r cerddi arnynt – wedi’u darlunio gan Sarah Berry, arlunydd o Gapel Curig, a’u noddi gan S4C.
 
Mae aelodau Merched y Wawr a Sefydliad y Merched o bob rhan o Gymru wedi ymuno â Chyngor Llyfrau Cymru i gefnogi elusennau – ac i roi sylw i Ddiwrnod y Llyfr.  Mae bron 300 o’r grwpiau hyn wedi cytuno i gasglu llyfrau ail-law a’u cyflwyno i siopau Tenovus, Hope House, Barnardo, y Groes Goch neu Oxfam yn eu hardal. Mae’r siopau hwythau wedi cytuno i ddangos posteri Diwrnod y Llyfr – gan helpu i annog pobl o bob oedran i fwynhau darllen.
 
Eleni eto, bydd y Cyngor Llyfrau’n trefnu darlith Diwrnod y Llyfr.  Fe'i traddodir eleni gan yr Athro M. Wynn Thomas, Abertawe.  Y cadeirydd fydd Jane Davidson, y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes yn y Cynulliad Cenedlaethol.
 
Ar y Diwrnod ei hunan, cynhelir ymgyrch e-bostio enfawr i annog miloedd o bobl i brofi’r mwynhad a geir o ddarllen.
 
Bydd dros 60,000 o bobl mewn sefydliadau a busnesau ledled Cymru’n cael ‘Pytiau Blasus’ trwy’r e-bost yn ystod y dyddiau cyn Diwrnod y Llyfr.
 
Y llynedd, cymerodd tua 50 o gwmnïau a sefydliadau yng Nghymru —  o’r CBI a Manweb i’r Cynulliad Cenedlaethol, cynghorau lleol a’r BBC — ran yn yr ymgyrch e-bost.  Roedd hyn yn golygu bod 55,000 o bobl wedi cael pytiau blasus o lyfrau Cymraeg a Saesneg a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn.
 
Mae ysgolion a llyfrgelloedd yn ymuno yn y diwrnod arbennig hefyd, gyda digwyddiadau mor amrywiol â pharti Ffrengig mewn un ysgol gynradd – i hyrwyddo cyfres yr European Picture Books – a sioe radio fyw yn Llyfrgell Casnewydd.
 
Yn ogystal, bydd miloedd o blant bach yn rhan o’r dathlu. Bydd llawer ohonynt yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth arbennig ar gyfer cylchoedd y Mudiad Ysgolion Meithrin a Chymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-Ysgol Cymru.
 
Trwy gydol yr wythnos, bydd y BBC yn dangos darlleniadau byrion gan gyflwynwyr o lyfrau a ddewiswyd yn arbennig ac mae Academi wedi comisiynu cerdd sy’n cael ei chyfieithu i nifer o dafodieithoedd Cymru yn ogystal ag i ieithoedd eraill.
 
Mae cyhoeddwyr a siopau llyfrau Cymru’n cefnogi’r Diwrnod hefyd.  Bydd nifer o siopau’n agor yn hwyr ac yn trefnu gwahanol ddigwyddiadau. Gyda chydweithrediad cyhoeddwyr Cymru, byddant yn gallu cynnig gostyngiad o 20% ar nifer o lyfrau poblogaidd.
 
‘Dros yr wythnos nesaf, bydd cymaint yn digwydd fel na all pobl Cymru beidio â sylwi ei bod yn Ddiwrnod y Llyfr,’ meddai Delyth Humphreys o Gyngor Llyfrau Cymru.
 
“Bu’r ymateb yn wych eleni, gyda mwy o bobl nag erioed yn cymryd rhan mewn digwyddiad sy’n atgoffa pobl pa mor braf yw darllen – ac sy’n ddiwrnod llawn hwyl hefyd,” meddai.
 
Ymhlith y sefydliadau eraill sy’n cymryd rhan yn y dathliadau mae Canolfan Dylan Thomas yn Abertawe; Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd; Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; a Chwmni Bysus Arriva sy’n dangos posteri Diwrnod y Llyfr ar ei holl fysus yn ystod y cyfnod cyn y Diwrnod.


  {(}
{)}