|
18,
Ionawr 2002
PRYSURDEB DIWRNOD Y LLYFR
Mae prysurdeb mawr ar droed ar hyn o bryd i sicrhau
llwyddiant Diwrnod y Llyfr, fydd yn cael ei gynnal eleni
ddydd Iau, 14 Mawrth.
Mae pecyn gwybodaeth eisoes wedi ei anfon i holl ysgolion
Cymru, gan gynnwys manylion am rai or gweithgareddau
cyffrous, yn ogystal â syniadau am weithgareddau
y gall yr ysgol eu cynnal i ddathlur achlysur.
Unwaith eto eleni, fe fydd yr ymgyrch e-bostio anferthol,
gydar Cyngor Llyfrau yn gobeithio dosbarthu dyfyniadau
bachog o lyfrau sydd wedi eu cyhoeddin ddiweddar
i oddeutu 60,000 o bobl.
Maer BBC hefyd wedi cytuno i ddarlledu pytiau
byr o rai enwogion yn sôn am rai ou hoff
lyfrau a bydd sylw ir holl ddiwrnod yn y papurau
newydd ac ar y cyfryngau.
Mae cyhoeddwyr a llyfrwerthwyr ledled Cymru hefyd yn
awyddus i ymuno yn y dathlu, gan obeithio y bydd y cyfan
yn rhoi digon o sylw ir pleser o ddarllen.
|