|
Gwobrau
Tir na n-Og 2005
Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru enwau enillwyr Gwobrau Tir
na n-Og 2005.
Enillydd y wobr am Ffuglen Oraur Flwyddyn yw EMILY HUWS
am y nofel Eco (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion), nofel llawn
tynerwch ar gyfer plant 9-12 oed. Yn y nofel cawn ddarllen
am y tensiynau ym mywyd cythryblus eco-ryfelwraig ai
merch. Dymar trydydd tro i Emily Huws ennill Gwobr Tir
na n-Og.
Rhoddwyd Clod Arbennig hefyd ir gyfrol Ir Tir
Tywyll, Elgan Philip Davies (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion).
Y gyfrol syn ennill y wobr am Lyfr Goraur Flwyddyn
ac eithrio Ffuglen yw Byd Llawn Hud (Gwasg Gomer), cyfrol
ddeniadol gan feirdd cyfoes (TUDUR DYLAN, SONIA EDWARDS, CERI
WYN JONES, MERERID HOPWOOD ac ELINOR WYN REYNOLDS) wedii
darlunio gan CHRIS GLYNN. Maer gyfrol hon, i ddarllenwyr
7-9 oed, yn cynnwys cerddi newydd a doniol am berthynas plant
â byd natur, ffrindiau a theulu. Cyhoeddwyd y gyfrol
dan nawdd Cynllun Cyhoeddiadau Cyd-bwyllgor Addysg Cymru.
Dyfarnwyd y wobr am y llyfr Saesneg gorau i JACKIE MORRIS,
am y llyfr stori-a-llun, The Seal Children (Frances Lincoln)
stori hudolus wedi ei darlunio'n chwaethus i ddarllenwyr 7-9
oed. Maen adrodd chwedl werin am hanner-gwraig
a hanner-morlo sy'n dwyn gwaredigaeth i drigolion penrhyn
unig wrth iddi gyflwyno trysor o wely'r môr iddynt.
Dymar eildro i Jackie Morris ennill Gwobr Tir na n-Og.
Eleni eto, roedd tasg anodd yn wynebur detholwyr,
meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant
Cyngor Llyfrau Cymru. Roedd yna gynhaeaf toreithiog
o lyfrau iw hystyried ar rheinyn adlewyrchu
safon uchel llyfrau plant yng Nghymru heddiw. Maer enillwyr
au cyhoeddwyr iw llongyfarch yn fawr iawn.
Cyflwynir Gwobrau Tir na n-Og yn flynyddol gan y Cyngor Llyfrau
a CILIP Cymru i anrhydeddu gwaith awduron ac arlunwyr llyfrau
plant. Bydd yr enillwyr yn cael eu hanrhydeddu yn yr hydref.
Am ragor o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth
a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell
Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion SY23 2JB T (01970)
624151 F (01970) 625385 elwyn.jones@cllc.org.uk
|