|
CYMORTH
I GRWPIAU DARLLEN
Mae bri mawr ar grwpiau darllen yng Nghymru, wrth i grwpiau
newydd gael eu sefydlu ledled y wlad, gan gyfarfod mewn llyfrgelloedd,
tafarndai a chartrefi.
Er mwyn cynorthwyo arweinwyr y grwpiau hyn, fe gomisiynodd
y Cyngor Llyfrau Bethan M. Hughes o Wasanaeth Llyfrgell Sir
Ddinbych i baratoi pecyn adnoddau arbennig. Fe fydd
y pecyn, or enw Rhannur Wefr, yn gymorth i unrhyw
un syn dymuno sefydlu grw?p newydd, yn ogystal â
chynnig syniadau newydd i grwpiau sydd eisoes wedi eu sefydlu.
Mae grwpiau darllen yn cynyddu yn eu poblogrwydd unwaith
eto, meddai Phil Davies ar ran y Cyngor Llyfrau, ac
rydym yn falch iawn o gael paratoir pecyn yma ar gyfer
yr arweinwyr.
Dawr syniadau ar cynghorion ymarferol o brofiad
uniongyrchol o ymwneud â grwpiau darllen, a bydd pawb
yn siw?r o fwynhaur ymarferion gwreiddiol a hwyliog
sydd yn y pecyn.
Mae pawb syn aelod o grp darllen yn sôn
am yr hwyl ar pleser y maent yn ei gael o ddarllen ystod
eang o lyfrau. A dyma nod y pecyn sef cyflwynor
pleser o ddarllen, meddai Bethan M. Hughes. Ambell
waith maer aelodau yn darllen llyfr na fyddent byth
wedi breuddwydio ei ddewis ac yn ei fwynhau. Dyma
gyfrinach y grwpiau darllen, mwynhaur cyfle i arbrofi
a thrafod.
Am fwy o fanylion am y pecyn grwpiau darllen cysylltwch â
Bethan Hughes ar 01824 708207 neu bethan.hughes@sirddinbych.gov.uk
|