National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
Mewn Print
 
 
2 Ebrill, 2001
HYRWYDDO LLYFRAU SAESNEG O GYMRU

Yn dilyn llwyddiant Nofel y Mis – y cynllun i hybu nofelau Cymraeg – mae’r Cyngor Llyfrau yn awr yn lansio cynllun arbennig i hyrwyddo llyfrau Saesneg newydd o Gymru, dan yr enw Wales Book of the Month. Cafodd y cynllun ei lansio ddechrau Ebrill gyda’r llyfr Eat Well in Wales 2001 a olygwyd gan y gogyddes adnabyddus Gilli Davies, ei gyhoeddi gan y Western Mail a’i ddosbarthu gan Wasg Prifysgol Cymru.

‘Rydym yn ffyddiog y bydd hwn yn gyfle gwych i ni roi sylw arbennig i lyfrau Saesneg newydd o Gymru,’ meddai Phil Davies, Pennaeth Adran Farchnata’r Cyngor Llyfrau. ‘Mae cynllun Nofel y Mis ar gyfer llyfrau Cymraeg wedi bod yn hynod o lwyddiannus ac rydym yn sicr y bydd y cynllun hwn eto yn cael yr un croeso.’

Eisoes mae nifer o siopau llyfrau wedi ymuno yn y cynllun, ac wedi derbyn stoc o’r teitl cyntaf yn ogystal â phosteri a chardiau hyrwyddo. ‘Gyda theitlau newydd yn cael eu hyrwyddo fel hyn bob mis, mae’n gyfle i’r cyhoedd gael golwg ar y llyfrau diweddaraf,’ ychwanegodd Phil Davies.
  __  

  {(}
{)}