|
1 Medi
2003
J. K. ROWLING YN CEFNOGI CLWB LLYFRAU SBONDONICS!
Daeth cyfle unigryw i un ysgol yng Nghymru ennill copi o Harri
Potter a Maen yr Athronydd wedi ei lofnodi gan neb llai na
J. K. Rowling ei hun!
Maer cyhoeddwyr Saesneg yn ffyddiog mai hwn fydd yr
unig gopi oi fath, ac maen debygol y bydd yn werth
arian ac yn hynod o gasgladwy ymhen amser. Felly, bydd
yn fuddsoddiad gwych ir ysgol fuddugol!
Ac maer wobr ar gael yn unig ir ysgolion hynny
syn perthyn i Glwb Llyfrau Sbondonics! Yr her ir
ysgolion fydd sicrhau fod y ganran uchaf posibl ou disgyblion
Blwyddyn 5 a 6 yn prynu llyfrau trwyr Clwb yn nhymor
yr hydref eleni.
Sbondonics ywr Clwb Llyfrau Cymraeg ar gyfer plant 7
i 11 oed a drefnir gan Gyngor Llyfrau Cymru. Mae dros
70,000 o daflenni gwerthu lliwgar y Clybiau Llyfrau
Sbri-di-ri a Sbondonics yn cael eu dosbarthu bob tymor
i blant ym mhob cwr o Gymru. Yn 20022003, gwerthwyd
dros 23,000 o lyfrau trwyr clybiau, gan ddod â
chyfanswm y gwerthiant i fwy na £100,000 am y tro cynta
erioed.
Maen braf medru defnyddio enw sydd mor adnabyddus
i blant ac oedolion ledled Prydain i hybu llyfrau Cymraeg,
meddai Delyth Humphreys, Swyddog Clybiau Llyfrau Plant y Cyngor
Llyfrau. Maer gystadleuaeth hon wedin
galluogi i roi sylw ychwanegol ir holl lyfrau gwych
sydd ar gael trwy Sbondonics. Rydym wedi darparu pytiau
blasus o nifer ohonyn nhw er mwyn annog y plant i brynu a
darllen llyfrau Cymraeg.
Bydd manylion llawn am y gystadleuaeth a thaflenni gwerthu
Sbondonics yn cyrraedd yr ysgolion yn ystod wythnos gyntaf
Medi. Mae croeso i unrhyw ysgol sydd â diddordeb
yn y cynllun i gysylltu â Delyth Humphreys ar 01970
624151 neu trwy e-bost delyth.humphreys@cllc.org.uk.
Bydd enwr ysgol fuddugol yn cael ei dynnu o het, ddydd
Llun 5 Ionawr 2004.
|