|
Cyfres Library of Wales

Cafodd y teitlau diweddaraf yng nghyfres Library of Wales
eu lansio yng Nghaerdydd, ym mhresenoldeb Alun Pugh, y Gweinidog
dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon. Roedd cyhoeddi'r
teitlau newydd hyn yn fodd i ddathlu treftadaeth lenyddol
Cymru yn yr iaith Saesneg.
'Mae'r gyfres yn llenwi bwlch pwysig yn ein hanes diweddar,
ac yn rhan o'r drafodaeth barhaol am hunaniaeth a diwylliant
y Cymry,' meddai Alun Pugh.
Y pedair cyfrol a gyhoeddwyd oedd Ash on a Young Man's Sleeve,
Dannie Abse; A Man's Estate, Emyr Humphreys; In the Green
Tree, Alun Lewis a Home to an Empty House, Alun Richards.
Yn dilyn y lansiad yng Nghaerdydd, fe drefnwyd digwyddiad
cyffelyb yn Nhy'r Cyffredin yn Llundain yng nghwmni Dr Hywel
Francis AS, Cadeirydd y Pwyllgor Dethol Cymreig.
'Mae Cymru yn wlad fechan gydag etifeddiaeth ddiwylliannol
a thraddodiad llenyddol yn ymestyn dros gyfnod maith. Hyd
yn hyn, mae cyfres Library of Wales wedi bod yn llwyddiant
ysgubol – yn fasnachol a hefyd o ran y nod o gyflwyno
llyfrau a fu allan o brint i gynulleidfaoedd newydd o ddarllenwyr.
Rwy'n hynod falch fod penderfyniad Llywodraeth y Cynulliad
i gefnogi'r gyfres wedi cael ei brofi'n gywir,' ychwanegodd
Alun Pugh.
Fel rhan o raglen 'Literary Lights' Frazer Cains, bu Alun
Pugh a'r Athro Dai Smith, golygydd y gyfres, yn ymweld â
chanolfan Gymraeg Llundain yn Grays Inn Road i roi sylw pellach
i'r gyfres.
Mae'r gyfres wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda dros 12,000
o gopïau o'r teitlau cyntaf eisoes wedi eu gwerthu. Bu
hefyd yn llwyddiant yn yr Unol Daleithiau. Fel rhan o ymweliad
cwmni Parthian ag Efrog Newydd yn gynharach eleni, cyflwynodd
Alun Pugh set o'r llyfrau i Alan Pally o Lyfrgell Gyhoeddus
Efrog Newydd.
I gyd-fynd â'r gyfres mae pecyn addysgol wedi ei baratoi
i gynorthwyo athrawon i gyflwyno ysgrifennu Saesneg o Gymru
yn y dosbarth. Mae'r pecyn yn cynnwys syniadau am weithgareddau
fydd yn:
- cyflwyno'r llyfrau yn eu gyd-destun cymdeithasol a hanesyddol
- annog trafodaeth a chyflwyniadau llafar
- cynorthwyo'r disgyblion i adnabod y prif themâu.
Paratowyd y pecyn addysg gan Hayley Long, sy'n hanu o Ipswich.
Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn athrawes Saesneg
yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd.
'Mae'n bwysig bod plant ac oedolion yng Nghymru yn cael mynediad
i lenyddiaeth sy'n rhan o'u profiad ac sy'n adlewyrchu eu
bywyd a'u hetifeddiaeth. Mae'r pecyn addysg a baratowyd gan
yr athrawes Saesneg brofiadol Hayley Long yn arf pwysig i
ddod â'r clasuron i'r dosbarth ac i annog trafodaeth
rhwng disgyblion am eu diwylliant,' meddai Alun Pugh.
Ychwanegodd yr Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd Cyngor Llyfrau
Cymru: 'Mae llwyddiant y gyfres arbennig hon wedi bod yn neilltuol
– mewn termau gwerthiant, sylw gan y cyhoedd a'r cyfryngau
a hefyd yn safon y llyfrau. Mae'r llwyddiannau hyn yn arwydd
o dwf a datblygiad cyhoeddi Saesneg yng Nghymru, fel y'i hyrwyddir
gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad
Cymru. Mae'r gyfres Library of Wales yn rhan ganolog o'r sylw
cynyddol a roddir i ysgrifennu Saesneg o Gymru. Wedi blynyddoedd
o ddiffyg sylw, mae dyfodol ysgrifennu Saesneg o Gymru –
boed y clasuron neu ysgrifennu newydd – yn edrych yn
llewyrchus iawn.' |