|
17 Ionawr 2006
CYFRES ‘LIBRARY OF WALES’ YN RHOI BYWYD NEWYDD I GLASURON O GYMRU
Caiff cyfres Llyfrgell Cymru, sef prosiect uchelgeisiol a gefnogir gan Gynulliad Cymru i ailargraffu casgliad o lyfrau clasurol o ddiddordeb Cymreig, ei lansio heno, nos Fawrth, 17 Ionawr, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Nod y gyfres yw arddangos ysgrifennu Cymreig yr 20fed ganrif yn Saesneg, drwy ailgyflwyno llyfrau pwysig ar draws ystod o arddulliau, a sicrhau eu bod yn cael eu cadw mewn print. Mae awduron cyfoes o Gymru wedi ysgrifennu cyflwyniadau newydd i deitlau’r gyfres, a ddyluniwyd i apelio at y darllenydd cyffredin, ac sydd wedi'i golygu gan Dai Smith, awdur, darlledydd ac Athro ym Mhrifysgol Abertawe.
Wrth lansio pum teitl cyntaf y gyfres, meddai'r Gweinidog dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon, Alun Pugh: “Mae gan Gymru dreftadaeth lenyddol gyfoethog, ond, tan heddiw, mae llawer o'n llyfrau clasurol wedi bod allan o brint neu nid ydynt wedi bod ar gael i'r cyhoedd. Mae cyhoeddi'r pum llyfr cyntaf yn y gyfres Library of Wales yn gyfle i ni ymfalchïo mewn dathlu'r dreftadaeth hon, a chyflwyno clasuron Cymreig i gynulleidfa gwbl newydd. Edrychaf ymlaen yn fawr at ddarllen y llyfrau hyn."
Fel rhan o’r prosiect, cyflwynir copi o bob teitl yn y gyfres i bob ysgol uwchradd, coleg a phrifysgol yng Nghymru, ynghyd â'r 22 Awdurdod Llyfrgell, a bydd y Gweinidog yn cyflwyno’r copi cyntaf i ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd cyn y lansiad swyddogol yfory.

Bydd y pum teitl cyntaf ar silffoedd mewn siopau llyfrau ledled Cymru, ac mewn siopau dethol ar draws y DU y mis hwn, a chaiff ei lansio yn UDA ym mis Mawrth. Caiff pecyn o ddeunyddiau addysgol ei lansio yng
Ngŵyl Lenyddol y Gelli Gandryll ym mis Mai i helpu i ailgyflwyno'r llyfrau i ysgolion, colegau a phrifysgolion.
Y bwriad yw cyhoeddi pedwar teitl arall erbyn mis Medi 2006, a disgwylir y bydd y casgliad yn ehangu ymhellach dros y blynyddoedd nesaf. Bydd y gyfres yn datblygu gydag amser i gynnwys rhyddiaith a barddoniaeth, traethodau a ffuglen, blodeugerddi a chofiannau, dramâu a newyddiaduraeth.
Meddai'r Athro Dai Smith, golygydd y gyfres: "Dyluniwyd y gyfres hon i apelio at gynulleidfa eang, gyffredinol, a'r gobaith yw y gallwn roi bywyd newydd i beth o'r gwaith ysgrifenedig mwyaf diwylliannol-sylweddol a gynhyrchwyd yng Nghymru, neu amdani, yn y ganrif ddiwethaf. Rydym ni'n credu bod y gyfres yn haeddu'i lle ar silff lyfrau unrhyw un sydd â diddordeb yng Nghymru, lle bynnag y bônt yn y byd.”
Meddai'r Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru a Chyfarwyddwr CREW (Canolfan Ymchwil Llenyddiaeth a Iaith Saesneg yng Nghymru ym Mhrifysgol Cymru Abertawe): "Mae'r gyfres nodedig hon yn arwydd o'r hyder newydd mewn llenyddiaeth Saesneg o Gymru. Mae'r llyfrau hyn yn ymddangos mewn cyfnod o gynnydd a datblygiad ym maes cyhoeddi Saesneg o Gymru – drwy gyfrwng Cyngor Llyfrau Cymru a chyda chefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad. Yn dilyn blynyddoedd llwm, mae dyfodol ysgrifennu Saesneg o Gymru – yn glasuron ac yn ysgrifennu newydd – yn edrych yn llewyrchus iawn."
Ychwanegodd Richard Davies, rheolwr gyfarwyddwr Parthian, cyhoeddwr y gyfres yn Aberteifi: “Mae'r fasnach lyfrau, ar y stryd fawr ac ar-lein fel ei gilydd, wedi croesawu'r gyfres, ac rydym wedi sicrhau cytundeb cyffrous gydag adwerthwr mawr yn yr UD ac wedi lansio gwefan Llyfrgell Cymru benodol i helpu'r gyfres i gyrraedd cynulleidfa ryngwladol.”
Y pum teitl cyntaf yn y gyfres Library of Wales yw: So Long Hector Bebb, Ron Berry (rhagair gan Niall Griffiths); Border Country, Raymond Williams (rhagair gan Dai Smith); Country Dance, Margiad Evans (rhagair gan Catrin Collier); The Dark Philosphers, Gwyn Thomas (rhagair gan Elaine Morgan); Cwmardy & Where We Live, Lewis Jones (rhagair gan Hywel Francis).
Trefnwyd y lansiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru mewn cydweithrediad â'r Academi.
Am ragor o fanylion, cysyllter ag Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth. Ffôn: 01970 624251; e-bost: elwyn.jones@cllc.org.uk
|