|
RHESTR
FER GWOBRAU TIR NA N-OG 2002
Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru heddiw (9 Mai) y teitlau ar
restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2002, syn cydnabod safon
aruchel llyfrau plant a phobl ifanc yng Nghymru yn y ddwy
iaith.
Cyflwynir y gwobraun flynyddol gan y Cyngor Llyfrau
i anrhydeddu gwaith awduron ac arlunwyr llyfrau plant mewn
tri chategori, sef ffuglen Gymraeg oraur flwyddyn, y
llyfr Cymraeg gorau ac eithrio ffuglen, a llyfr Saesneg goraur
flwyddyn.
Bydd enwaur enillwyr terfynol yn cael eu cyhoeddi ym
mis Medi, gydar enillwyr ym mhob categorin derbyn
gwobr o £1,000 yr un.
Dymar enwau ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og eleni:
FFUGLEN ORAUR FLWYDDYN
Chwaraen Troin Chwerw, Tudur Williams Gwasg
Carreg Gwalch
Gwirioni, Shoned Wyn Jones Y Lolfa
Powdwr Rhech!, Eirug Wyn Y Lolfa
LLYFR GORAUR FLWYDDYN
AC EITHRIO FFUGLEN
Poeth! Cerddi Poeth ac Oer, Gol. Non ap Emlyn;
Dylunydd Marian Delyth Y Lolfa
Cyfathrebu, Sue Balsom, Jo Dahn, Justine Baldwin, Julian Davies
Francis Balsom Associates
Creision Hud, Mihangel Morgan Y Lolfa
LLYFR SAESNEG GORAUR
FLWYDDYN
Outrageous Oomph, Julie Rainsbury Gomer/Pont
Arthur At the Crossing Places, Kevin Crossley-Holland
Orion Childrens Books
Georgie, Malachy Doyle Bloomsbury
Who, Me? Jenny Sullivan Gomer/Pont
Cafodd y panelwyr hwyl arbennig ar y darllen eleni,
meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant
y Cyngor Llyfrau. Roeddynt i gyd yn cytuno bod
y safon yn arbennig o uchel a bod digon o amrywiaeth yn y
cynnyrch. Y mae hyn yn glod arbennig ir awduron
ar cyhoeddwyr sydd yn gweithio mor galed i baratoir
llyfraun flynyddol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag: Elwyn Jones,
Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus,
Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion
SY23 2JB
T:
(01970) 6241510 F: (01970) 625385 elwyn.jones@cllc.org.uk
|