|
1
Tachwedd
2003
GWOBRAU
TIR NA N-OG
Cyhoeddwyd enwau enillwyr gwobrau Tir na n-Og 2003 yn fyw
heddiw (31 Hydref) ar y rhaglen deledu Gwobrau Tir na
n-Og 2003 ar S4C.
Enillydd Ffuglen Oraur Flwyddyn yw BETHAN GWANAS am
y gyfrol Sgôr (Y Lolfa), nofel ddifyr, ddarllenadwy
iawn, yn llawn hiwmor ar gyfer yr arddegau am fachgen yn symud
i fyw or gogledd ir de.
Enillwyr y wobr am Lyfr Goraur Flwyddyn ac eithrio Ffuglen
yw RHIANNON IFANS a MARGARET JONES am y gyfrol Dewi Sant (Y
Lolfa), cyfrol arbennig o safonol syn gyfuniad o storïau
am fywyd Dewi Sant gyda darluniau a diwyg syn gweddu
ir cyfnod.
Dymar ail dro i Bethan Gwanas ennill gwobr Tir na n-Og.
Yn 2001 enillodd y wobr am ei nofel Llinyn Trôns. Mae
Rhiannon Ifans hefyd wedi ennill gwobr Tir na n-Og or
blaen. Yn 2000 enillodd hi a Margaret Jones gydar
gyfrol Chwedlau or Gwledydd Celtaidd. Margaret
Jones yw arlunydd Dewi Sant, a dymar pedwerydd tro iddi
hi ennill gwobr Tir na n-Og.
Dyfarnwyd y wobr am y llyfr Saesneg gorau i ROB LEWIS am y
llyfr stori-a-llun, Cold Jac (Pont/Gomer), nofel wedii
lleoli ar fferm yng Nghymru. Ganed Rob Lewis yn Llundain
a bun astudio Dylunio Graffig yng Ngholeg Politechnig
Bryste. Maen awr yn byw ar fferm ger Llandrindod.
Roedd tasg anodd iawn yn wynebur beirniad eto
eleni, meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau
Plant y Cyngor Llyfrau. Y maer llyfrau sydd
wedi cyrraedd y brig yn arwydd o safon arbennig llyfrau plant
yng Nghymru y dyddiau hyn a hefyd or ystod eang o lyfrau
sydd ar gael. Rydym yn hynod falch o gael llongyfarch
yr enillwyr yn wresog ar eu camp.
Cyflwynir gwobrau Tir na n-Og yn flynyddol gan y Cyngor Llyfrau
i anrhydeddu gwaith awduron ac arlunwyr llyfrau plant.
Yn dilyn y cyhoeddiad ar y rhaglen deledu Gwobrau Tir
na n-Og 2003 heddiw, fe fydd yr enillwyr hefyd yn cael
eu hanrhydeddu yn ystod Cynhadledd Llyfrau Plant y Cyngor
Llyfrau 7 9 Tachwedd 2003) yng ngwestyr Metropole,
Llandrindod.
Am fanylion pellach cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth
Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru,
Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2JB
T (01970) 624151 F (01970) 625385 elwyn.jones@cllc.org.uk
|