|
GWOBRAU
TIR NA N-OG 2005 (10 Mai 2005)
Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru y teitlau ar restr fer Gwobrau
Tir na n-Og 2005, syn cydnabod safon aruchel llyfrau
plant a phobl ifanc yng Nghymru yn y ddwy iaith.
Cyflwynir y gwobraun flynyddol gan y Cyngor Llyfrau
i anrhydeddu gwaith awduron ac arlunwyr llyfrau plant mewn
tri chategori, sef ffuglen Gymraeg oraur flwyddyn, y
llyfr Cymraeg gorau ac eithrio ffuglen, a llyfr Saesneg goraur
flwyddyn. Noddir y gwobrau gan CILIP Cymru.
Bydd enwaur enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach
yn y flwyddyn.
Maen glod ir awduron ar cyhoeddwyr
hyn bod eu llyfrau wedi cyrraedd y rhestr fer, meddai
Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor
Llyfrau, gan bod y gwobraun anrhydeddur
goreuon ymysg llyfrau plant o Gymru.
Dymar teitlau sydd ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og
eleni:
Ffuglen Oraur Flwyddyn
Eco, Emily Huws (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion)
Graffiti, Angharad Devonald (Dref Wen)
Gwas y Stabl, Mair Wynn Hughes (Gwasg Gomer)
Ir Tir Tywyll, Elgan Philip Davies (Cymdeithas
Lyfrau Ceredigion)
Llyfr Goraur Flwyddyn
ac Eithrio Ffuglen
Byd Llawn Hud (Gwasg Gomer)
Chwyldro! Chwyldro?, Robin Evans (Canolfan Astudiaethau
Addysg)
Dwli o Ddifri, Ceri Wyn Jones (Gwasg Gomer)
Hen Wragedd a Ffyn ac Eira Gwyn, gol. Myrddin ap Dafydd
(Gwasg Carreg Gwalch)
Llyfr Saesneg Goraur
Flwyddyn
In Chatter Wood, Jac Jones (Pont Books)
Nat, Margaret Jones (Pont Books)
The Seal Children, Jackie Morris (Frances Lincoln)
Turning Points in Welsh History 14851914, Stuart
Broomfield, Euryn Madoc-Jones (University of Wales Press)
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth
a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan,
ABERYSTWYTH, Ceredigion SY23 2JB ( (01970) 624151
2 (01970) 625385 : elwyn.jones@cllc.org.uk
|