National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
Mewn Print
 
 
Chwefror 16, 2004

RHESTR FER GWOBRAU TIR NA N-OG 2004
 
Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru heddiw (12 Chwefror) y teitlau ar restr fer Gwobrau Tir Na n-Og 2004, sy’n cydnabod safon aruchel llyfrau plant a phobl ifanc yng Nghymru yn y ddwy iaith.
 
Cyflwynir y gwobrau’n flynyddol gan y Cyngor Llyfrau i anrhydeddu gwaith awduron ac arlunwyr llyfrau plant mewn tri chategori, sef Ffuglen Gymraeg Orau’r flwyddyn, y Llyfr Cymraeg Gorau ac Eithrio Ffuglen, a Llyfr Saesneg Gorau’r Flwyddyn.
 
Bydd enwau’r enillwyr terfynol yn cael eu cyhoeddi mewn rhaglen deledu ar Ddiwrnod y Llyfr, dydd Iau, 4 Mawrth.
 
Dyma’r teitlau sydd ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og eleni:
 
Ffuglen Orau’r Flwyddyn
 
Y ‘Fo’ yn y T
ŷ,
Mair Wynn Hughes (Gwasg y Bwthyn)

Iawn Boi?;-),
Caryl Lewis (Y Lolfa)

Mewn Limbo,
Gwyneth Glyn (Y Lolfa)
 
Llyfr gorau’r Flwyddyn ac Eithrio Ffuglen
 
Ffeithiau Ffwtbol,
Gary Pritchard (Dref Wen)

Mae Modfedd yn Llawer Mewn Trwyn,
gol. Myrddin ap Dafydd (Carreg Gwalch)

Stori Dafydd ap Gwilym,
Gwyn Thomas a Margaret Jones (Y Lolfa)
 
Llyfr Saesneg Gorau’r Flwyddyn
 
A Wind From the Sea,
Jennifer Morgan (Pont Books/Gomer)

The Battle of Mametz Wood, 1916,
Robert Phillips (CAA)

Now That I’ve Found You,
Rex Harley (Pont Books/Gomer)

Weird Tales from the Storyteller,
Daniel Morden (Pont Books/Gomer)


 
‘Cafodd y panelwyr hwyl arbennig ar y darllen eleni,’ meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau.  ‘Roeddynt i gyd yn cytuno bod digon o amrywiaeth yn y cynnyrch.  Mae hyn yn glod arbennig i’r awduron a’r cyhoeddwyr sy’n gweithio i baratoi’r llyfrau’n flynyddol.’
 
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion  SY23 2JB T (01970) 624151  F (01970) 625385  elwyn.jones@cllc.org.uk
 
 

  {(}
{)}