National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
Mewn Print
 
 
31 Mawrth, 2004
                                                    
Y CYNGOR LLYFRAU'N CROESAWU ADRODDIAD Y CYNULLIAD AR YSGRIFENNU SAESNEG YNG NGHYMRU
 
Croesawodd Cyngor Llyfrau Cymru adroddiad Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad ar Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Mercher 31 Mawrth) gan nodi ei fod yn gyfraniad pwysig i'r drafodaeth ar ddatblygu'r maes pwysig hwn yng Nghymru.
 
'Roeddem yn hynod falch fod y Pwyllgor Diwylliant, dan gadeiryddiaeth Rosemary Butler AC, wedi penderfynu ymgymryd â'r adolygiad polisi hwn,' meddai Dr Lionel Madden, Cadeirydd y Cyngor Llyfrau, 'yn enwedig gan iddo ddigwydd yn dynn ar sodlau'r penderfyniad i drosglwyddo'r cyfrifoldeb am gyhoeddi Saesneg o Gyngor y Celfyddydau i'r Cyngor Llyfrau.' 
 
Ychwanegodd Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau 'Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth o safon uchel – yn ysgrifenedig ac ar lafar – gan gynrychiolwyr o'r sector gyhoeddi, yn cynnwys awduron, cyhoeddwyr, llyfrgellwyr ac addysgwyr, yn ogystal â'r Cyngor Llyfrau ei hun. Y mae'n amlwg bod aelodau'r pwyllgor wedi deall a gwerthfawrogi'r her sy'n wynebu'r sector.  Does dim amheuaeth y byddai'r argymhellion, o'u gweithredu yn eu cyfanrwydd, yn gallu trawsnewid Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru.'
 
Fel y noda'r adroddiad, yr oedd cytundeb lwyr ymysg y cyfranwyr ar bwysigrwydd a chyfraniad ysgrifennu Saesneg yng Nghymru i ddiwylliant Cymru.
 
'Mae awduron y Gymru fodern yn cyfrannu'n sylweddol at ddiwylliant y genedl,' meddai'r Athro M. Wynn Thomas, Cyfarwyddwr CREW (Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru) a Chadeirydd Panel Grantiau Cyhoeddi (Saesneg) y Cyngor Llyfrau.  'Drwyddynt hwy y mae Cymru yn mynegi'i hun iddi'i hun ac i'r byd.  Bellach, am y tro cyntaf, mae'r Gymru amlddiwylliannol yn nodi'n gyhoeddus bwysigrwydd ysgrifennu Saesneg gan gyhoeddi adroddiad sy'n cefnogi eu gwaith.  Hyderir y bydd y weledigaeth a ddangoswyd gan y Pwyllgor Diwylliant, drwy gydnabod cryfder diwylliant mwyafrif pobl Cymru, yn trosglwyddo'n weithredu cadarnhaol gan Lywodraeth y Cynulliad a'i Gweinidogion.'
 
Mae'r Cyngor Llyfrau'n hynod falch fod yr adroddiad yn rhoi'r prif sylw i gefnogi a datblygu holl strwythur y sector gyhoeddi.  Y mae'r elfennau hyn yn cynnwys:

- arian comisiynu i awduron
- cryfhau strwythurau'r tai cyhoeddi
- buddsoddi mewn marchnata
- annog siopau llyfrau i arddangos a hyrwyddo'r llyfrau.
 
Yn ogystal â'r uchod, mae'r adroddiad yn nodi cyfraniad pwysig llyfrgelloedd a'r sector addysg i hyrwyddo llyfrau Saesneg o Gymru i ddarllenwyr newydd. Mae'r Adroddiad hefyd yn nodi pwysigrwydd Gwobrau Llyfrau i hyrwyddo'r llyfrau gorau o Gymru a'r angen i gadw'r 'clasuron' mewn print.
 
'Y mae'r Cyngor Llyfrau yn ffyddiog y bydd y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn ymateb yn bositif i'r adroddiad hwn,' meddai Gwerfyl Pierce Jones.  'Rydym hefyd yr un mor sicr y bydd holl sectorau'r diwydiant cyhoeddi yn falch o'r cyfle i gydweithio â'r Cynulliad i sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu gweithredu.  Drwy gydweithio â'n gilydd gallwn sicrhau bod ysgrifennu Saesneg o Gymru'n cael y sylw y mae'n ei haeddu.'
 
Yn ystod lansio'r adroddiad fe gyhoeddodd W H Smith y bydd eu holl siopau cadwyn yng Nghymru yn rhoi mwy o sylw i lyfrau Saesneg o Gymru o hyn ymlaen.  Bydd cynllun Llyfr y Mis W H Smith yn cael ei lansio yn eu siopau yng Nghymru ac yn ogystal byddant yn arddangos adran arbennig o lyfrau Saesneg o Gymru.  Fe nodwyd hefyd bod siopau cadwyn eraill yn ystyried ehangu eu detholiad o lyfrau Saesneg o Gymru.
 
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion  SY23 2JB  T (01970) 624151  F (01970) 625385  elwyn.jones@cllc.org.uk

  {(}
{)}