ADOLYGU
LLYFRAU AR Y WE
Mae
sylw pellach wedi ei sicrhau i lyfrau o Gymru yn ddiweddar,
wrth i'r Cyngor Llyfrau gyhoeddi bod adolygiadau o lyfrau penodol
i'w gweld ar wefan www.gwales.com.
Mae'r gwaith mewn llaw ers rhai wythnosau, gyda bron i 100 o
adolygiadau eisoes wedi ymddangos ar y safle. Y nod yw sicrhau
500 o adolygiadau cyn diwedd Mawrth 2002 a 500 ychwanegol yn
y flwyddyn ddilynol. Bu'n bosib i'r Cyngor Llyfrau fwrw ymlaen
â'r gwaith pwysig yma yn dilyn cyfraniad ariannol gan
y Cynulliad Cenedlaethol.
Trefnir y gwaith o adolygu'r llyfrau gan dîm o olygyddion,
gan ganolbwyntio ar y llyfrau diweddaraf i gael eu cyhoeddi
i ddechrau, cyn rhoi sylw wedyn i'r toreth o lyfrau a gyhoeddwyd
ers i'r cylchgrawn Llais Llyfrau ddod i ben ar ddechrau
1999.
Dywedodd
Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, 'Rydym wedi
bod yn ymwybodol o'r bwlch ym maes adolygu llyfrau ers dyddiau
Llais Llyfrau, ac rydym yn falch o'r cyfle i ddefnyddio'r
dechnoleg newydd i sicrhau sylw i lyfrau o Gymru. Fel hyn, bydd
cyfle i unrhyw un sydd â mynediad i'r We gael golwg ar
yr adolygiadau. Y mae'n ddatblygiad rydym ni yn y Cyngor Llyfrau
yn falch iawn ohono, ac y mae eisoes wedi ei groesawu gan awduron,
cyhoeddwyr a llyfrwerthwyr.'
Y
mae hefyd yn fwriad i ganiatáu i gylchgronau a phapurau,
gan gynnwys papurau bro, wneud defnydd o'r adolygiadau sydd
yn ymddangos ar y safle. Bydd hyn yn sicrhau y bydd rhagor eto
o ddarllenwyr yn cael cyfle i'w mwynhau.
Y
cam nesaf fydd datblygu'r safle ymhellach, fel bod y cyhoedd
yn gallu ychwanegu eu sylwadau ar ddiwedd yr adolygiadau, gan
sicrhau y bydd pawb yn cael cyfle i drafod llyfrau o Gymru.
|