National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
Mewn Print
 
 

11 Rhagfyr 2002

LLYFRAU’N ANRHEG NADOLIG

 
Gydag ond ychydig wythnosau i fynd tan y Nadolig, mae’n siw�r eich bod chwithau fel pawb arall yn methu’n lân â chael hyd i’r anrheg Nadolig berffaith i’w rhoi i’ch ffrindiau.  Ond peidiwch â phoeni –  mae’r Cyngor Llyfrau’n falch o gael nodi bod ganddynt yr ateb i’ch holl broblemau.
 
Mae’r ddau atodiad lliwgar a gyhoeddwyd gan y Cyngor Llyfrau yn llawn i’r ymylon o’r llyfrau diweddaraf, gyda theitlau addas ar gyfer bob oed.  Mae’r ateb yn syml, felly: rhowch lyfr yn anrheg i’ch ffrindiau y Nadolig hwn.
 
Mae’r atodiad Gwledd y Nadolig yn rhoi sylw i’r degau o deitlau Cymraeg sydd wedi eu cyhoeddi’n ddiweddar gan gynnwys llyfrau am enwogion Cymru, llyfrau hanes, nofelau a barddoniaeth.  Mae’r atodiad hefyd yn cynnwys cystadleuaeth arbennig gyda chyfle i ennill tocyn gwyliau sy’n rhoddedig gan Gwyliau Seren Arian, Caernarfon.
 
‘Mae’r cyhoeddwyr wedi paratoi arlwy arbennig ar ein cyfer eleni,’ meddai Phil Davies, Pennaeth Adran Farchnata’r Cyngor Llyfrau, ‘ac rydym yn sicr bod yna deitlau i blesio pawb.’
 
Mae’r casgliad o’r llyfrau Saesneg o Gymru wedi eu cynnwys yn yr atodiad Books from Wales sydd yn cael ei ddosbarthu gyda’r Western Mail.  Mae copïau hefyd wedi eu hanfon i bob siop lyfrau a llyfrgell yng Nghymru.
 
‘Trwy bori yn y ddau atodiad rydym yn siw�r y cewch ddigon o syniadau ar gyfer eich anrhegion,’ ychwanegodd Phil Davies, ‘a gallwch fod yn sicr y bydd pawb yn cael Nadolig llawen eleni ar ôl derbyn eu hoff lyfrau.’
 
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB Ffôn (01970) 624151  Ffacs (01970) 625385  Ebost elwyn.jones@cllc.org.uk


  {(}
{)}