|
APWYNTIO
PENNAETH GWEINYDDIAETH A CHYSYLLTIADAU CYHOEDDUS
Yn
ddiweddar, penodwyd Elwyn Jones yn Bennaeth Gweinyddiaeth
a Chysylltiadau Cyhoeddus Cyngor Llyfrau Cymru. Y mae'n
hen gyfarwydd â gwaith y Cyngor gan ei fod wedi gweithio
am bedair blynedd yn yr Adran Farchnata yno.
Fel Swyddog Marchnata yr oedd yn gyfrifol am ddatblygu cynlluniau
hyrwyddo, ond bellach ef fydd yn gyfrifol am weinyddiaeth
fewnol y Cyngor yn ogystal â datblygu delwedd gyhoeddus
y sefydliad.
'Y mae'n gyfnod cyffrous iawn i'r diwydiant
llyfrau yng Nghymru,' meddai Mr Jones. 'Gyda
strwythurau newydd o ariannu'r Cyngor wedi eu cyflwyno
gan y Cynulliad Cenedlaethol, rydym yn sicr y bydd holl sectorau'r
fasnach lyfrau yn cydweithio â'i gilydd i ddatblygu
a hyrwyddo'r ddarpariaeth o lyfrau i'r darllenwyr.'
Yn enedigol o'r Bala, fe ddilynodd Elwyn Jones gwrs hyfforddi
athrawon yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, cyn ymuno ag
Urdd Gobaith Cymru yn Aberystwyth. Bu am bedair blynedd
ar ddeg yn gweithio gyda chwmni cysylltiadau cyhoeddus Stratamatrix,
ac yn Gyfarwyddwr y cwmni gyda chyfrifoldeb am rai o brif
glientau'r cwmni ledled Cymru.
'Rwy'n sicr y bydd fy mhrofiad o weithio yn yr Adran
Farchnata, a'm hadnabyddiaeth o waith y Cyngor, yn sylfaen
dda i mi ar gyfer fy swydd newydd,' ychwanegodd Mr Jones.
'Ein nod bob amser yw sicrhau'r ddarpariaeth orau
bosib o lyfrau o Gymru, gan fanteisio ar bob cyfle i hyrwyddo
gwerthiant y llyfrau, ac i hybu darllen yn gyffredinol.'
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth
a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan,
Aberystwyth, Ceredigion SY23 2JB
T:
(01970) 6241510 F: (01970) 625385 elwyn.jones@cllc.org.uk
|