30
Gorffennaf, 2002
ARIAN NEWYDD I AWDURON
Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ynglŷn
â chynnydd sylweddol yn y Grant Cyhoeddi ar gyfer llyfrau
Cymraeg, cyhoeddodd y Cyngor Llyfrau bod rhai o awduron amlycaf
Cymru ymhlith y rhai fydd yn derbyn comisiynau
gan gyhoeddwyr i ysgrifennu llyfrau yn ystod y flwyddyn
nesaf.
Cafodd y Cyngor Llyfrau ymateb arbennig o dda gan y cyhoeddwyr
pan wahoddwyd ceisiadau am arian comisiynu, ac mae hynny'n
cadarnhau'r farn fod yna nifer o awduron disglair sy'n
awyddus i ysgrifennu yn y Gymraeg.
Ymhlith y 12 awdur cyntaf i dderbyn y taliadau comisiwn fe fydd
MANON RHYS, BETHAN GWANAS, SONIA EDWARDS, PENRI JONES a DAFYDD
HUWS. Bydd DAI JONES a LYN EBENEZER hefyd yn cydweithio
ar gyfrol am y gyfres deledu 'Cefn Gwlad', llyfr fydd
yn ddilyniant teilwng i Fi Dai Sy' 'Ma, un
o werthwyr gorau'r blynyddoedd diwethaf. Bydd yr
awduron hyn yn derbyn y prif gomisiynau, sef rhwng £5,000
a £10,000, i'w galluogi i gael amser rhydd i ysgrifennu.
'Rydym wedi nodi lawer gwaith fod rhai o'n hawduron
amlycaf yn awyddus iawn i ysgrifennu llyfrau poblogaidd ar gyfer
y farchnad Gymraeg,' meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr
y Cyngor Llyfrau. 'Mae'r ceisiadau a ddaeth i law
ar gyfer yr arian newydd hwn yn ategu hynny, ac rydym yn ddiolchgar
i Lywodraeth y Cynulliad ar y naill law am ddangos eu cefnogaeth
i'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, ac i'r cyhoeddwyr
a'r awduron ar y llaw arall am ymateb gyda cheisiadau mor
greadigol.'
Derbyniwyd cynnydd o £250,000 yn y Grant Cyhoeddi eleni
(o £623,000 i £873,000) ac mae £150,000 ohono
wedi'i glustnodi ar gyfer cefnogi awduron yn ystod y flwyddyn
ariannol bresennol. Mae arian hefyd wedi cael ei glustnodi
i gryfhau'r gweisg drwy gefnogi swyddi i olygyddion creadigol
er mwyn iddynt weithio law yn llaw â'r awduron i
ddatblygu eu gwaith.
Yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog Diwylliant, Jenny Randerson,
ddiwedd Ebrill, fe symudodd y Cyngor Llyfrau, y cyhoeddwyr a'r
awduron yn gyflym i sicrhau bod y grantiau cyntaf yn cael eu
dyfarnu mor fuan â phosibl. Bydd grantiau pellach
yn cael eu dyfarnu cyn diwedd y flwyddyn hon.
Wrth groesawu'r datblygiad yma, dywedodd Gareth Miles ar
ran Undeb yr Ysgrifenwyr:
'Nid wyf yn synnu fod awduron proffesiynol wedi ymateb
mor frwd i'r drefn gomisiynu newydd. Byddant, o'r
diwedd, yn derbyn cyflog teg am y misoedd o lafur a gymer i
sgrifennu nofel. Fe'u galluogir hefyd i adrodd eu
straeon eu hunain yn hytrach na gorfod cydymffurfio â
fformwlâu ystrydebol cynhyrchwyr radio a theledu.'
Dywedodd Myrddin ap Dafydd, Gwasg Carreg Gwalch, ar ran Cymdeithas
y Cyhoeddwyr:
'Ers canrif a mwy mae cyhoeddwyr Cymraeg wedi dibynnu ar ewyllys
da awduron sy'n fodlon rhoi eu hamser i sgwennu llyfrau yn yr
iaith. Dan y cynllun newydd hwn, rydan ni'n medru cynnig cytundebau
tecach am y gwaith. Drwy fedru prynu amser, bydd cynnyrch nad
oedd o fewn ein cyrraedd o'r blaen yn dod i olau dydd. Llyfrau
uchelgeisiol yn anelu at werthiant uchel fyddan nhw, a bydd
hynny'n hwb i bawb sy'n gysylltiedig â'r byd llyfrau
Cymraeg.'
Ychwanegodd Gwerfyl Pierce Jones:
'Dyma un o'r datblygiadau mwyaf cyffrous yn y byd
cyhoeddi ers blynyddoedd. Nid ar chwarae bach y llwyddwyd
i gael cynnydd yn y Grant Cyhoeddi, ond mae'r holl waith
wedi dwyn ffrwyth ac mae'n gwbl briodol bod y rhan fwyaf
o'r arian ychwanegol yn cael ei sianelu i gyfeiriad awduron.
Mae'r rhestr a gyhoeddir heddiw yn ernes o'r hyn sydd
i ddod, ac rwy'n sicr ein bod i gyd yn edrych ymlaen yn
eiddgar at weld ffrwyth y gwaith mewn print maes o law.'
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth
a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan,
ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB ( (01970) 624151 2 (01970)
625385 : elwyn.jones@cllc.org.uk
Cysylltiadau yn y gweisg
Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Dylan Williams 01970 617776
Gwasg Carreg Gwalch Myrddin ap Dafydd 01492 642031
Gwasg Gomer Bethan Mair 01559 362371
Gwasg Gwynedd Alwyn Elis 01286 674486
Y Lolfa Lefi Gruffudd 01970 832304
|