4
Mai, 2001
ARIAN AR GYFER DATBLYGUR FASNACH LYFRAU
Mae arian ychwanegol o Uned Datblygur Economi y
Cynulliad Cenedlaethol wedi sicrhau bod y Cyngor Llyfrau
wedi gallu apwyntio ymgynghorwyr i baratoi adroddiad ar
ddau ddatblygiad hanfodol ir fasnach lyfrau yng
Nghymru, sef y Defnydd o Dechnoleg Gyfrifiadurol mewn
Marchnata a Dosbarthu, a Chyhoeddi Electronig.
Bydd y gwaith ymgynghorol yn cael ei gyflawni gan Mark
Bide a Kim Richardson o gwmni Rightscom. Bydd Peter Kilborn
yn gweithio ar waith ymchwil arall yn canolbwyntio ar
strategaeth tymor-canol i Ganolfan Ddosbarthur Cyngor.
Mae Roy Thomas, gynt o Ysgol Fusnes Caerdydd, wedi ei
benodin ymgynghorydd arbennig ar faterion Cymreig
ir tri phrosiect.
Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau,
bod y Cyngor yn hynod falch bod y prosiectau wedi denu
cynigion or radd flaenaf, gan ychwanegu: Rydym
wedi bod yn arbennig o ffodus i gael penodi ymgynghorwyr
gyda phrofiad byd-eang o systemau gwybodaeth ar gyfer
byd busnes, yn ogystal â chefndir or diwydiant
llyfrau. Bydd gwybodaeth Roy Thomas or byd cyhoeddi
yng Nghymru ac o faterion economaidd yn gymorth sylweddol.
Mae Rightscom yn bwriadu cynnal cyfres o weithdai yn ystod
yr wythnosau nesaf er mwyn ymgynghorin drylwyr gydar
fasnach a phartneriaid eraill. Bydd argymhellion yr adroddiad
terfynol ar y cynlluniau cyfrifiadurol a chyhoeddi electronig
yn cael eu cyflwyno mewn cynhadledd yn yr hydref.
|
|