|
11
Rhagfyr 2002
LLYFRAU
O GYMRU I BEDWAR BAN BYD
Beth ywr cysylltiad rhwng Mozambique, Yr
Almaen, Qatar a Chaerdydd?
Yn fuan iawn, fe fydd y daflen Books from Wales
a gyhoeddwyd ar y cyd rhwng y Cyngor Llyfrau ar
Cyngor Prydeinig iw gweld ym mhob un or
mannau uchod. Nod y daflen yw hyrwyddo llyfrau
o Gymru ac fei dosberthir drwy swyddfeydd y Cyngor
Prydeinig ledled byd. Erbyn hyn mae ganddynt swyddfeydd
mewn 218 o drefi a dinasoedd mewn 109 o wledydd.
Dymar tro cyntaf ir Cyngor Llyfrau
gydweithion ffurfiol âr Cyngor Prydeinig
yng Nghymru ac rydym yn falch iawn or cyfle i
wneud hyn, meddai Elwyn Williams, Swyddog Cynllun
Ymestyn y Cyngor. Maen gyfle gwych
i gyrraedd cynulleidfa newydd ac i dynnu sylwr
byd at y toreth o lyfrau safonol yn yr iaith Saesneg
a gyhoeddir gan gyhoeddwyr o Gymru.
Maer daflen liwgar yn cyfeirio at oddeutu 90 o
deitlau amrywiol ym meysydd gwleidyddiaeth a chymdeithas,
diwylliant, hanes, llenyddiaeth a phobl. Maer
daflen hefyd yn rhoi sylw i wefan gwales.com fel ffordd
syml o gael yr wybodaeth ddiweddaraf am lyfrau o Gymru.
Rydym yn gobeithio yn fawr y bydd yr arbrawf yma
yn llwyddiannus, ychwanegodd Elwyn Williams, ac
y byddwn yn cydweithio ân gilydd eto y flwyddyn
nesaf, gan anelu at adeiladu perthynas tymor-hir er
lles y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.
Am
fwy o wybodaeth cysylltwch ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth
a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell
Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB Ffôn
(01970) 624151 Ffacs (01970) 625385 Ebost
elwyn.jones@cllc.org.uk
|