|
30
Gorffennaf, 2001
CYFNOD YNG NGHARCHAR BIWMARES!
Cafodd
dwy ysgol yn y gogledd orchymyn i fynd i Garchar Biwmares
yn ddiweddar i dderbyn gwobrau arbennig gan y Cyngor
Llyfrau. Dyma'r lleoliad a ddewiswyd i wobrwyo'r ysgolion
a ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth Diwrnod y Llyfr
2001. Y gamp i'r ysgolion oedd cyplysu dathliadau Diwrnod
y Llyfr a Dydd Gŵyl Dewi, gan fod y ddau yn cyd-daro
eleni. Darlledwyd yr achlysur yn fyw ar raglen Heno,
gyda'r cyflwynydd Daloni Metcalf yn cyflwyno'r gwobrau
o lyfrau gwerth £500 yr un i Ysgol
Gynradd Llanfairpwll ac Ysgol
Uwchradd Botwnnog.
Fe drefnwyd yr ymweliad drwy gydweithrediad Adran Hamdden
a Threftadaeth Ynys Môn, ac fel rhan o'r ymweliad
fe gafodd y disgyblion eu tywys ar daith o gwmpas y
carchar, cyn ymuno â Mei Mac, Bardd Plant Cymru,
mewn gweithdy barddoniaeth.
Doedd gan y beirniad, Gareth William Jones, ond canmoliaeth
i'r holl ysgolion oedd wedi cystadlu gan nodi: 'Mae'n
amlwg bod pob diwrnod yn "ddiwrnod y llyfr"
yn yr ysgolion fu'n cystadlu eleni gan fod yr adroddiadau
a dderbyniais yn dangos cymaint o bwysigrwydd a roddir
i lyfrau gan yr ysgolion.'
Ychwanegodd Delyth Humphreys: 'Er mai dwy ysgol yn unig
oedd yn cael eu gwobrwyo, rydym yn sicr bod pob ysgol
a gymerodd ran wedi cael mwynhad o'r gweithgareddau,
ac fe allwn yn awr edrych ymlaen at ddathlu Diwrnod
y Llyfr y flwyddyn nesaf ar ddydd Iau, 14 Mawrth 2002.'
|