Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

RHOI LLYFRAU O GYMRU AR Y MAP
 
Yn ddiweddar, mae’r Cyngor Llyfrau wedi lansio cynllun i hyrwyddo gwerthiant llyfrau o Gymru dramor.  Wrth gydweithio â’r cyhoeddwyr, mae’r Cyngor yn bwriadu hyrwyddo llyfrau o Gymru ar draws y byd, gan dargedu rhai marchnadoedd arbennig megis yr Unol Daleithiau.
 
I arwain yr ymgyrch hon ac i gydlynu’r rhaglen, mae’r Cyngor Llyfrau wedi penodi Bridget Shine, o Login, Sir Gaerfyrddin.
 
Mae Bridget wedi ymuno â’r Cyngor ar ôl bod yn gweithio i gwmni cyhoeddi Crown House Publishing, lle roedd yn arwain y tîm marchnata a gwerthiant tramor.  Mae’n rhugl mewn Sbaeneg, a chanddi ddiddordeb mewn llenyddiaeth ryngwladol, ac mae’n awr yn awyddus i ddefnyddio ei doniau i hyrwyddo llyfrau o Gymru i ddarllenwyr ym mhob cwr o’r byd.
 
‘Mae’n amser cyffrous i ledaenu’r neges am lenyddiaeth o Gymru,’ meddai Bridget.  ‘Rydym yn awyddus i’r holl gyfoeth o lyfrau o Gymru fod ar gael i bawb, lle bynnag y maent yn byw, a byddwn yn cydweithio â’r cyhoeddwyr a sefydliadau eraill i hyrwyddo’r nod yma.’
 
Mae Phil Davies, Pennaeth Marchnata’r Cyngor Llyfrau, yr un mor frwd dros y cynllun.  ‘Ein nod yw hyrwyddo pob math o lyfrau o Gymru, gan gynnwys rhai hanesyddol a ffeithiol, yn ogystal â’r goreuon o’n llenyddiaeth, gan ganolbwyntio i ddechrau ar y llefydd sydd â chysylltiadau Cymreig.
 
‘Gall y cysylltiad hwn fod drwy gymdeithas Cymry dramor, gwyliau celfyddydol gan Gyngor y Celfyddydau, ymgyrchoedd arbennig gan y Bwrdd Croeso, neu ddigwyddiadau chwaraeon wrth gwrs.  Pryd bynnag a phle bynnag y bydd cyfle, fe fyddwn yn gobeithio hybu llyfrau o Gymru yn y siopau lleol,’ ychwanegodd.
 
Mae Bridget hefyd yn edrych ymlaen at feistroli’r Gymraeg, ac at ei thrwytho ei hun yn llenyddiaeth Cymru.  Meddai, ‘Fy nod yn awr yw sicrhau fod yr holl lyfrau o Gymru’n cael gwell sylw dramor, a bod mwy o bobl yn cael y cyfle i gael blas ar ein llenyddiaeth.’

 
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag:
Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus,
Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion  SY23 2JB
FFôn (01970) 624151 Ffacs (01970) 625385 E-bôst elwyn.jones@cllc.org.uk
 
 
 


  {(}
{)}