Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

4 Ionawr 2003

CAEL BLAS AR Y DARLLEN
 
Mae cyfle i ddarllenwyr Cymru gael blas arbennig ar ddarllen y dyddiau hyn, yn dilyn cyhoeddi catalog llyfrau diweddaraf y Cyngor Llyfrau.
 
Mae’r daflen Llyfrau Coginio o Gymru wedi ei chyhoeddi’n arbennig i hybu ystod eang o lyfrau coginio Cymreig a Saesneg sydd ar gael, ac y mae’n cyd-fynd â’r diddordeb cynyddol sydd i’w weld mewn cynnyrch bwyd o Gymru.
 
Yn ogystal â llyfrau gan gogyddion amlwg megis Ena Thomas, Dudley Newbery ac Angela Gray, y mae’r catalog hefyd yn cynnwys nifer o lyfrau sy’n canolbwyntio ar ryseitiau Cymreig traddodiadol.
 
‘Rydym yn hyderus y bydd y cyhoeddiad newydd hwn yn llenwi bwlch pwysig yn y farchnad,’ meddai Elwyn Williams ar ran y Cyngor Llyfrau, ‘ac y bydd yn fodd i hyrwyddo’r deunydd gwych sydd ar gael yn y ddwy iaith ar y pwnc poblogaidd hwn.’
 
Y mae’r catalog diweddaraf yn rhan o gyfres a gyhoeddir dan adain Cynllun Ymestyn y Cyngor Llyfrau i hybu llyfrau o bob math o Gymru.  Bydd y daflen nesaf yn ymddangos ddechrau Mawrth ac yn canolbwyntio ar deitlau sy’n ymwneud â bywyd a gwaith Dylan Thomas, gan gyfrannu at y gweithgareddau a drefnir eleni i ddathlu hanner can mlwyddiant marwolaeth y bardd o Abertawe.

 
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Swyddog Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB ( (01970) 624151  2 (01970) 625385  : elwyn.jones@cllc.org.uk


  {(}
{)}