9
Mai, 2001
CYHOEDDI CATALOGAU I HYBU LLYFRAU PLANT
Maer Cyngor Llyfrau newydd gyhoeddi dau gatalog
i hybur amrywiaeth eang o lyfrau plant sydd ar gael
yn y Gymraeg ar Saesneg.
Maer Catalog Llyfrau Plant ac Adnoddau Addysgol
2001, a gyhoeddir gyda chymorth Awdurdod Cymwysterau,
Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC), ar ei newydd wedd eleni.
Y maen rhestr o 3,500 o lyfrau Cymraeg, gyda 360
ohonynt yn deitlau a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
ar cyfan yn llenwi bylchau pwysig ym maes llyfrau
hamdden ac addysgol.
I gyd-fynd âr catalog Cymraeg y maer
catalog Wales in English hefyd wedi ei gynhyrchu
ai ddosbarthu. Cafwyd cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau
Cymru iw gyhoeddi. Y bwriad yma eto yw cyflwyno
rhestr gyflawn or llyfrau ar deunyddiau Saesneg
eu hiaith o ddiddordeb Cymreig sydd ar gael. Yn ogystal
â gwybodaeth lyfryddol yn ôl categorïau
gwahanol, y maer catalog yn cynnwys mynegai hwylus
yn ôl teitl, awdur a dylunydd.
Yn ôl Menna Lloyd Williams, Pennaeth yr Adran Llyfrau
Plant, Gydai gilydd, maer catalogau
hyn yn ffurfio trysorfa o wybodaeth wych am lyfrau plant
o Gymru.
|
|