|
1
Mawrth 2005
LLEWYRCH Y CLYBIAU LLYFRAU
Maer
clybiau llyfrau Sbri-di-ri a Sbondonics yn mynd
o nerth i nerth y dyddiau hyn, gyda gwerthiant y tymor diwethaf
wedi profi yr uchaf erioed.
Maer clybiau, a weinyddir gan y Cyngor Llyfrau, yn cael
eu trefnu drwyr cylchoedd meithrin ar ysgolion
cynradd, gan roi cyfle i bob plentyn brynu llyfrau ou
dewis. Diolch i frwdfrydedd athrawon ledled Cymru, fe
sicrhawyd archebion gwerth £37,000 yn ystod tymor yr
Hydref.
Oherwydd y dewis gwych o lyfrau oedd wedi eu cynnwys
yn y taflenni a ddosbarthwyd, rydym wedi llwyddon rhyfeddol
i gynyddur gwerthiant unwaith eto, meddai Delyth
Humphreys ar ran y Cyngor Llyfrau. Maen
amlwg bod athrawon a rhieni yn gwerthfawrogir cyfle
i sicrhau llyfrau ir plant, ac y maer plant eu
hunain hefyd yn mwynhaur darllen.
Er mwyn sicrhau bod y cynnydd yn cael ei gynnal, maer
Cyngor Llyfrau yn cynnig tocynnau llyfrau gwerth £5
yr un ir 500 cyntaf syn prynu llyfrau y tymor
hwn. Cyfle gwych, felly, ir plant fwynhau rhagor
o lyfrau!
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth
a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan,
ABERYSTWYTH, Ceredigion SY23 2JB T (01970) 624151
F (01970) 625385 E elwyn.jones@cllc.org.uk
|