National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
Mewn Print
 
 

CYNGOR LLYFRAU CYMRU YN CROESAWU ARIAN YCHWANEGOL AR GYFER YSGRIFENNU SAESNEG O GYMRU (7 Mai 2004)
 
Cafodd cyhoeddiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru bod £250,000 ychwanegol i’w neilltuo ar gyfer Ysgrifennu Saesneg o Gymru ei groesawu’n fawr gan Gyngor Llyfrau Cymru.
 
Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau: ‘Croesewir y cyhoeddiad pwysig ac amserol hwn gan Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, a golyga bod modd dechrau ar y gwaith o ddatblygu Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru.
 
‘Bydd angen buddsoddi pellach yn ystod y cylch ariannu nesaf, yn arbennig ar gyfer gweithredu’r Strategaeth Farchnata Gytûn ar gyfer y diwydiant cyfan, sydd ar hyn o bryd yn cael ei gostio.  Rydym wedi ein calonogi gan ymateb cychwynnol y Gweinidog i’r adroddiad hwn sy’n garreg filltir, ac sydd hefyd wedi derbyn cefnogaeth ar draws y pleidiau o fewn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.’
 
Ychwanegodd yr Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd Panel Grantiau (Saesneg) y Cyngor Llyfrau, ‘Mae’r datblygiad hwn yn garreg filltir o bwys gan ei fod yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wnaed gan Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru i ddealltwriaeth y genedl ohoni’i hun.  Y mae’r Cynulliad Cenedlaethol drwy hyn yn cydnabod hynodrwydd diwylliant mwyafrifol y Gymru gyfoes ac wedi sylweddoli mai hwn yw llythyr cyflwyno Cymru i’r gymuned ryngwladol.’
 
Gellir darllen testun cyhoeddiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy glicio YMA.


  {(}
{)}