|
30
Tachwedd 2001
CYHOEDDI TREFN ARIANNU NEWYDD IR CYNGOR LLYFRAU
Cyhoeddodd
Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru, heddiw
(30 Tachwedd) fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cytuno i symleiddior
modd y maer Cyngor Llyfraun derbyn ei arian craidd
or flwyddyn nesaf ymlaen.
Bellach,
fe fydd y Cyngor Llyfrau yn derbyn ei arian craidd o un ffynhonnell
yn unig, sef y Cynulliad Cenedlaethol, gan resymolir
drefn bresennol o dderbyn arian or Cynulliad Cenedlaethol
(83%) yn ogystal â gwneud ceisiadau ir ddau ar
hugain o Awdurdodau Lleol unigol (17%).
Cyhoeddwyd
y trefniant newydd yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Llyfrau
a gynhaliwyd eleni yn Aberaeron, ar wahoddiad Cyngor Sir Ceredigion,
gydar Cyngor Llyfrau yn dathlu deugain mlynedd o ddarparu
gwasanaeth ir fasnach lyfrau yng Nghymru. Sefydlwyd
y Cyngor yn 1961, pan ddaeth y Cymdeithasau Llyfrau lleol
at ei gilydd i sefydlu un corff cenedlaethol.
Rydym
yn sicr y bydd y trefniant newydd yma yn gosod y Cyngor ar
seiliau ariannol cadarnach, fel y gallwn gynllunion
gwaith yn well ar gyfer y dyfodol, meddai Gwerfyl Pierce
Jones. Er hyn, rydym yn awyddus i barhaur bartneriaeth
agos sydd rhyngom ar Awdurdodau Lleol ledled Cymru,
ac fe fyddant yn parhau i gael eu cynrychioli ar ein pwyllgorau
canolog.
Yn
ystod y flwyddyn ddiwethaf, bur Cyngor hefyd yn llwyddiannus
wrth ddenu arian ychwanegol i ddatblygu nifer o gynlluniau
newydd i hyrwyddo a hybu llyfrau. Ymhlith y cynlluniau hyn
roedd y gwaith o gomisiynu adolygiadau o lyfrau iw gosod
ar wefan y Cyngor www.gwales.com, yn ogystal â gwahodd
papurau a chylchgronau iw cyhoeddi.
Mae
gennym nod o baratoi 500 o adolygiadau erbyn diwedd y flwyddyn
ariannol hon, meddai Gwerfyl Pierce Jones, ac
rydym yn falch o gael nodi ein bod wedi croesir hanner
ffordd. Rydym hefyd yn falch bod darllenwyr yn gwerthfawrogir
gwasanaeth yma, ar datblygiad nesaf fydd rhoi cyfle
iddynt ychwanegu eu sylwadau eu hunain ar y llyfrau.
Dau
gynllun arall sydd ar y gweill yw, yn gyntaf, cynllun peilot
i sefydlu cylchoedd darllen lleol mewn cydweithrediad ag Awdurdodau
Llyfrgell yng Nghonwy, Ceredigion a Chastell-nedd Port Talbot.
Maer cynllun yn cael ei gynnal yn ystod y gaeaf eleni,
a bydd yn cael ei fonitron ofalus gydar gobaith
oi ehangu yn y dyfodol. Maer ail gynllun wedi
ei dargedun arbennig i ddenu pobl ifanc, yn enwedig
bechgyn, i ddarllen mwy o lyfrau, ac fel rhan or cynllun
trefnwyd taith gan gr<eth>p theatr-mewn-addysg i nifer
o ysgolion ledled Cymru.
Nododd
Gwerfyl Pierce Jones bod llwyddiant y Cyngor i ddenu arian
prosiect yn parhau, gan adrodd bod y Cyngor wedi derbyn arian
ychwanegol gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn
ariannol nesaf i hybu llyfrau o Gymru dramor.
Wrth
gyflwynor adroddiad blynyddol ar gyfer 2000/2001 i aelodaur
Cyngor, nododd Gwerfyl Pierce Jones bod yr adroddiad ariannol
yn dangos cynnydd unwaith eto yng ngwerthiant y Ganolfan Ddosbarthu,
gydar cyfanswm 8% yn uwch nar flwyddyn flaenorol.
Yn
ogystal â bod yn falch or gwasanaethau rydym yn
eu cynnig ir cyhoeddwyr ar llyfrwerthwyr,
ychwanegodd, maen braf cael adrodd bod gwerthiant
llyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o ddiddordeb Cymreig yn
dal i gynyddu, a bod y gwerthiant drwyr Ganolfan Ddosbarthu
wedi dyblu dros y deng mlynedd diwethaf.
Am
fwy o wybodaeth cysyllter ag:
Elwyn
Jones, Swyddog Marchnata,
Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan,
Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2JB
(01970) 624151 2 (01970) 625385
elwyn.jones@cllc.org.uk
|