Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 
CYFOETH LLYFRAU CYMRU
 
Mae’r llyfryn Good Reading From Wales, a gyhoeddwyd gan y Cyngor Llyfrau yn ddiweddar, yn gyflwyniad gwych i’r cyfoeth o lenyddiaeth Saesneg o ddiddordeb Cymreig sydd ar gael.
 
Mae’r casgliad eang o deitlau yn cynnwys nofelau, barddoniaeth a dramâu, gan gynnig rhywbeth at ddant pob darllenydd.  Gyda diddordeb cynyddol ym mhopeth Cymreig, fe fydd y llyfryn Good Reading From Wales yn sicr o gael ei groesawu.
 
‘Y bwriad oedd cynnwys manylion am y goreuon yn y maes,’ meddai Elwyn Williams, Swyddog Datblygu Cynllun Ymestyn y Cyngor Llyfrau, ‘a thrwy hynny gyflwyno’r cyfoeth, yr amrywiaeth a’r safon uchel o ysgrifennu creadigol a geir yng Nghymru heddiw.’ 
 
‘Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r cyhoeddwyr am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth wrth baratoi’r llyfryn,’ ychwanegodd Mr Williams,  ‘a hyderwn yn fawr y bydd y sylw ychwanegol yma i’r llyfrau yn arwain at werthiant ychwanegol drwy siopau.’
 
Mae’r llyfryn Good Reading From Wales eisoes wedi ei ddosbarthu’n helaeth, ond mae croeso i unrhyw un sydd eisiau copi yn rhad ac am ddim gysylltu ag Elwyn Williams yn y Cyngor Llyfrau.
 
Good Reading From Wales yw’r diweddaraf mewn cyfres o gyhoeddiadau’r Cynllun Ymestyn ac mae’n ategu prif waith y Cynllun, sef hyrwyddo gwerthiant llyfrau mewn digwyddiadau amrywiol yng Nghymru a thu hwnt.  Fe gefnogir y Cynllun gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
 
Am wybodaeth bellach cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion  SY23 2JB  ( (01970) 624151
2 (01970) 625385  : elwyn.jones@cllc.org.uk
 

  {(}
{)}