|
30
Gorffennaf, 2004
ARIAN NEWYDD I GYLCHGRONAU
I BOBL IFANC
Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru y bydd yn cefnogi dau
gylchgrawn newydd i bobl ifanc o fis Awst eleni ymlaen.
Y ddau yw:
Tacsi, cylchgrawn amrywiol i bobl ifanc a gyhoeddir
gan Diwydiannau 24-7, Caerdydd; y golygydd yw Bethan
Elfyn. Lansiwyd Tacsi yn Eisteddfod Meifod 2003,
a chyhoeddwyd pum rhifyn hyd yn hyn. Bydd y Cyngor
yn ei noddin rheolaidd o hyn ymlaen.
Y Selar, cylchgrawn newydd deufisol am fyd cerddoriaeth
Gymraeg. Bydd yn cael ei gyhoeddi gan gwmni Rasal,
Llandwrog, Caernarfon ar golygydd fydd Owain Morgan
Jones.
Maer Cyngor eisoes yn cefnogi V, atodiad misol
yn Golwg a anelir at rai tua 1416 oed. Addawyd
arian ychwanegol i V ar gyfer marchnatar cylchgrawn
yn ehangach.
Maer Cyngor wedi llwyddo i gefnogir ddau
gylchgrawn newydd oherwydd fod Llywodraeth y Cynulliad
wedi dyfarnu £25,000 yn ychwanegol yn y Grant
Cyhoeddi yn benodol tuag at gefnogi cylchgronau i bobl
ifanc.
Daeth chwech o geisiadau i law, rhai ar gyfer cylchgronau
oedd yn bod eisoes a rhai ar gyfer cylchgronau newydd.
Penderfynodd Panel Grantiau Cyhoeddi Cymraeg y Cyngor
gefnogi Tacsi ac Y Selar a rhoi swm ychwanegol i V.
Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau
Cymru: Mae ceisio darparu ar gyfer pobl ifanc
yn rhan bwysig o waith y Cyngor, ac roeddem yn croesawur
arian ychwanegol a roddwyd at y gwaith gan Lywodraeth
y Cynulliad. Bu cystadleuaeth frwd am yr arian,
a derbyniwyd ceisiadau amrywiol o safon uchel, sefyllfa
sydd yn adlewyrchu bywiogrwydd y byd cyhoeddi Cymraeg.
Mae Tacsi eisoes wedi profir dyfroedd yn llwyddiannus,
ac edrychwn ymlaen at weld Y Selar yn ymddangos.
Bydd y Cyngor yn awyddus iawn i weld beth fydd yr ymateb
ir cylchgronau hyn mewn marchnad syn newid
yn gyson.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru eisoes yn cefnogi naw cyhoeddiad
gyda chyllideb or Grant Cyhoeddi o tua £135,000.
Y teitlau yw Wcw!, Cip, V, Lingo Newydd, Y Wawr, Llafar
Gwlad, Fferm a Thyddyn, Cristion a Y Cymro.
Am wybodaeth bellach, cysyllter ag: Elwyn Jones,
Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus,
Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH,
Ceredigion SY23 2JB
T (01970) 624151 F (01970) 625385 E elwyn.jones@cllc.org.uk
|