CYLLID
YCHWANEGOL I HYRWYDDOR SECTOR GYHOEDDI YNG NGHYMRU
Fe fydd y Grant Cyhoeddi a weinyddir gan y Cyngor Llyfrau i
hybu cyhoeddi llyfrau a chylchgronau Cymraeg yn cynyddu o £250,000
eleni (o £623,000 i £873,000). Cyhoeddwyd
y newydd hwn ar 17 Ebrill gan Jenny Randerson, y Gweinidog dros
Ddiwylliant, Chwaraeon ar Iaith Gymraeg, ac fei
croesawyd yn fawr gan Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor
Llyfrau, fel cam pwysig ymlaen yn yr ymdrech i ddatblygur
sector gyhoeddi yng Nghymru.
Maer cyhoeddiad yn ganlyniad gwaith Grwp Gorchwyl a Gorffen
a sefydlwyd gan y Gweinidog dan gadeiryddiaeth Delyth Evans,
y Dirprwy Weinidog, i drafod agweddau ar y maes cyhoeddi, ac
maen adeiladu ar y strategaeth Gydan Gilydd, a gydlynwyd
gan y Cyngor Llyfrau, ac syn cynrychioli barn y sector
gyhoeddi ynghylch y ffordd ymlaen dros y blynyddoedd nesaf.
Neilltuir y cynnydd yn bennaf tuag at gefnogi awduron, cryfhaur
gweisg trwy gefnogi swyddi, ac agweddau ar hyrwyddo llyfrau.
Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd y bydd y Grant Cyhoeddin
cael ei dalun uniongyrchol ir Cyngor Llyfrau yn
hytrach na thrwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Bydd y trefniant
hwn yn cwblhaur broses o symleiddio dulliau cyllidor
Cyngor Llyfrau ac yn galluogir Cyngor i ddadlau achos
y sector cyhoeddin uniongyrchol âr Cynulliad.
Am unrhyw wybodaeth bellach cysyllter ag: Elwyn Jones,
Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau
Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion SY23 2JB
( (01970) 624151 2 (01970) 625385 :
elwyn.jones@cllc.org.uk |