Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 
5 Rhagfyr, 2003
 
LLWYDDIANT YSGUBOL Y CYNLLUN YMESTYN

 
Cyhoeddodd y Cyngor Llyfrau heddiw (5 Rhagfyr 2003) bod y Cynllun Ymestyn wedi cyrraedd carreg filltir nodedig yn ei hanes, gan sicrhau gwerthiant gwerth £1m ers ei sefydlu ym mis Medi 1995.
 
Sefydlwyd y Cynllun Ymestyn gyda’r bwriad o annog llyfrwerthwyr ledled Cymru i hybu gwerthiant llyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o ddiddordeb Cymreig drwy gynnal stondinau llyfrau mewn amrywiol ddigwyddiadau a gweithgareddau.  Mae 163 o siopau wedi defnyddio’r Cynllun ers ei sefydlu, gan fynychu 2,840 o ddigwyddiadau.
 
Gwnaed y cyhoeddiad arbennig hwn gan Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd eleni yn Wrecsam.
 
‘Y mae’r Cynllun Ymestyn wedi bod yn llwyddiant diamheuol,’ meddai Gwerfyl Pierce Jones, ‘gan ddangos pa mor bwysig yw sicrhau bod pobl drwy Gymru gyfan yn cael cyfle i weld ac i brynu’r cyfoeth o lyfrau sydd ar gael.  Y mae hefyd yn glod i’r llyfrwerthwyr sydd wedi bod yn rhan o’r cynllun ac i’r Swyddogion brwd sydd wedi bod yn ei arwain.’
 
Fe gyfeiriodd Gwerfyl Pierce Jones hefyd at yr Adolygiad Polisi ar Ysgrifennu Cyfrwng Saesneg yng Nghymru a gynhelir ar hyn o bryd gan Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol, gan groesawu’r cyfle i drafod y maes pwysig hwn er mwyn sicrhau diwydiant cyhoeddi bywiog a ffyniannus yng Nghymru yn y ddwy iaith.
 
‘Rydym yn hynod falch fod y Pwyllgor Diwylliant yn rhoi sylw i’r maes hwn,’ ychwanegodd Gwerfyl Pierce Jones.  ‘Y mae’n dilyn yr adolygiad a fu ar gyhoeddi yn y Gymraeg yn ddiweddar, ac eisoes fe welir canlyniadau cadarnhaol yr adolygiad hwnnw.  Hyderwn yn fawr y bydd yr adolygiad ar gyhoeddi yn yr iaith Saesneg yn arwain at ddatblygiadau tebyg.’
 
Yn ystod ei haraith yn y Cyfarfod Blynyddol, fe gyfeiriodd Gwerfyl Pierce Jones hefyd at rai o’r datblygiadau cyffrous eraill yn y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ar hyn o bryd, gan gynnwys paratoi Strategaeth Farchnata Gytûn gan holl sectorau’r diwydiant, datblygiadau arwyddocaol i wefan lyfrau gwales.com a chynlluniau llwyddiannus i hybu llyfrau o Gymru dramor.
 
Gorffennodd drwy ddiolch i bawb o fewn y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ac i staff y Cyngor Llyfrau am eu hymdrech a’u sêl dros hybu llyfrau o Gymru.
 
Am unrhyw wybodaeth bellach cysyllter ag:  Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion  SY23 2JB  Ffôn (01970) 624151  Ffacs (01970) 625385  : elwyn.jones@cllc.org.uk

  {(}
{)}