20
Rhagfyr 2004
Cynnydd yng Ngwerthiant Llyfrau'r Nadolig
Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru bod gwerthiant llyfrau mis Tachwedd
eleni wedi cynyddu'n sylweddol ers y flwyddyn ddiwethaf, a'i
bod yn argoeli'n Nadolig llwyddiannus iawn i'r diwydiant llyfrau.
Gwelwyd cynnydd o 36% yng ngwerthiant llyfrau drwy Ganolfan
Ddosbarthu'r Cyngor yn Nhachwedd o'i gymharu â ffigurau
y llynedd, gyda gwerthiant o £386,000 yr uchaf
erioed.
Mae'r cynnydd hwn yn groes i newyddion digalon y CBI a gyhoeddodd
yr wythnos ddiwethaf mai siomedig oedd y rhagolygon ar gyfer
gwerthiant yn y siopau o hyn hyd at y Nadolig. Nododd Nielsen
BookScan hefyd bod gwerthiant llyfrau ym Mhrydain ym mis Tachwedd
i lawr 1.3% oi gymharu â 2003.
Mae'r cynnydd hwn yn ganlyniad i gyfuniad o nifer o ffactorau,
meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau. Mae'r
cyhoeddwyr wedi sicrhau detholiad o lyfrau gwych ar gyfer y
darllenwyr a hefyd wedi gofalu bod y llyfrau yn y siopau yn
gynnar. Rydym ninnau yn y Cyngor Llyfrau wedi rhoi blaenoriaeth
i hyrwyddo'r llyfrau drwy atodiadau lliwgar, hysbysebion teledu
deniadol a thargedu'r wasg a'r cyfryngau. Y mae'n amlwg hefyd
bod buddsoddiad Llywodraeth y Cynulliad mewn llyfrau o Gymru
wedi arwain at werthiant ychwanegol.
Yn ôl Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg
a Chwaraeon: Mae hyn yn dangos bod yr arian ychwanegol
yr ydym wedii sianelu i hybu llyfrau o Gymru eleni yn
dwyn ffrwyth. Mae ysgrifennu o Iwerddon ar Alban
eisoes wedi torri eu cwysi unigryw eu hunain ac maen braf
gweld bod ysgrifennu yng Nghymru yn dilyn yr un llwybr.
Gyda chynifer o lansiadau llyfrau a theithiau awduron wedi eu
trefnu, a'r siopau llyfrau yn llawn o'r llyfrau diweddaraf,
y mae'n argoeli'n flwyddyn dda ar gyfer llyfrau o Gymru.
Ychwanegodd Gwerfyl Pierce Jones: Dydw i ddim yn cofio
cystal dewis o lyfrau ers i mi fod yn y Cyngor Llyfrau. Mae'r
dewis yn wych eleni gyda llyfrau i blesio pawb.
Nodyn ir Golygydd:
Mae gwerthiant o £380,000 net yn cyfateb i werthiant gros
o £580,000.
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth
a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan,
ABERYSTWYTH, Ceredigion
SY23 2JB T (01970) 624151 F (01970) 625385
E elwyn.jones@cllc.org.uk
|