|
33
O DIMAUN CYSTADLU AM WOBRAU DR DEWI DAVIES
(5 Gorffennaf 2004)
Cynhaliwyd Rownd Genedlaethol y Cystadlaethau Llyfrau Cymraeg,
a drefnir gan Gyngor Llyfrau Cymru, yng Nghanolfan y Celfyddydau,
Aberystwyth ddiwedd Mehefin. Daeth 33 o dimau o ysgolion
o bob cwr o Gymru i gymryd rhan yn y pencampwriaethau ar gyfer
disgyblion Blynyddoedd 3/4 a Blynyddoedd 5/6.
Mwynhaodd dros 300 chant o blant, athrawon a rhieni ddiwrnod
llawn o weithgareddaun ymwneud â llyfrau gydar
disgyblion yn trafod storïau o waith Mair Wynn Hughes
a Gwyn Morgan, a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer y cystadlaethau,
yn ogystal â chyflwyno perfformiadau dramatig o lyfrau.
Yn ystod y prynhawn bu T. Llew Jones yn adrodd storïau
ai symbylodd i sgrifennu rhai oi nofelau ac yn
arwyddo copïau oi lyfrau. Y buddugwyr yn
y cystadlaethau oedd:
Blynyddoedd 3 a 4
1.Ysgol y Garnedd, Bangor, Gwynedd
2.Ysgol Dyffryn Banw, Llangadfan, Powys
3.Ysgol Llanddoged, Conwy
Blynyddoedd 5 a 6
1.Ysgol Llanddoged, Conwy
2.Ysgol Edern, Gwynedd
3.Ysgol Dyffryn Banw, Llangadfan, Powys
Noddir y gwobrau gan Dr Dewi Davies, meddyg o Gymro syn
enedigol o ardal Rhos, ger Llandysul.
Cawsom ddiwrnod hynod o lwyddiannus, meddai Menna
Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau,
a gallwn ond diolch ir holl athrawon a rhieni
am eu cefnogaeth gan longyfarch yn fawr y timau a ddaeth ir
brig eleni.
| Ysgol
y Garnedd, Bangor, enillwyr y gystadleuaeth ar gyfer blynyddoedd
3 a 4, gyda T Llew Jones |
 |
| Ysgol
Llanddoged, Conwy, enillwyr y gystadleuaeth ar gyfer blynyddoedd
5 a 6, gyda T Llew Jones |
 |
Cystadlaethau ar gyfer blynyddoedd 3 a 4
1.Ysgol y Garnedd Bangor, yr enillwyr, gyda T. Llew Jones
2.Ysgol Dyffryn Banw, Llangadfan
3.Ysgol Llanddoged, Conwy
Cystadlaethau ar gyfer blynyddoedd 5 a 6
1.Ysgol Llanddoged, Conwy
2.Ysgol Edern, Gwynedd
3.Ysgol Dyffryn Banw, Llangadfan
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Swyddog Gweinyddiaeth
a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan,
ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB ( (01970) 624151 2
(01970) 625385 : elwyn.jones@cllc.org.uk
|