Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

8 Ionawr 2003

TEITHIO’R WLAD I HYBU LLYFRAU SAESNEG O GYMRU
 
Mae Dominic Williams wedi ei benodi fel Swyddog Gwerthiant gyda’r Cyngor Llyfrau i ganolbwyntio ar hybu llyfrau Saesneg o Gymru.
 
Mae hon yn swydd ar y cyd rhwng y Cyngor Llyfrau a Literary Publishers (Wales) Ltd., sef consortiwm yn cynrychioli chwech o dai cyhoeddi Cymru.  Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhoi nawdd ariannol tuag at y swydd hon.
 
Yn enedigol o Bont-y-pw?l yng Ngwent, bu Mr Williams yn gweithio i gwmni peirianyddol yng Nghwmbrân am ddeng mlynedd.  Penderfynodd wedyn ddilyn cwrs gradd mewn Astudiaethau Cymreig yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, gan arbenigo ar lenyddiaeth Saesneg o Gymru, sy’n ei wneud yn berson delfrydol ar gyfer y swydd hon.
 
Y mae hefyd yn gyfarwydd iawn â’r byd llyfrau gan iddo weithio am ddwy flynedd yn siop lyfrau Ottakar’s, Caerfyrddin, tra oedd yn dilyn cwrs gradd uwch mewn Astudiaethau Dwyieithog.
 
‘Teimlaf bod fy mhrofiad ym myd llyfrau a’m diddordeb arbennig mewn llenyddiaeth o Gymru yn sylfaen dda ar gyfer y swydd,’ meddai Mr Williams.  ‘Rwy’n gyfarwydd iawn â’r cynnyrch ac yn gwybod am safon arbennig y llyfrau a gyhoeddir yng Nghymru.  Edrychaf ymlaen yn awr at gael canolbwyntio ar eu cyflwyno i gylch ehangach o ddarllenwyr.’
 
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Swyddog Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB ( (01970) 624151  2 (01970) 625385  : elwyn.jones@cllc.org.uk


  {(}
{)}