National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
Mewn Print
 
 
29 Mehefin, 2001
EDERN YN ENNILL AM Y TRYDYDD TRO

Yn Rownd Genedlaethol y Cystadlaethau Llyfrau Cymraeg i ysgolion cynradd, a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ddydd Iau 21 Mehefin, cafwyd diwrnod llawn o drafod llyfrau ac o gyflwyniadau graenus. Roedd naw o ysgolion cynradd yn cymryd rhan, gan ymgiprys am Darian Dr Dewi Davies, a'r beirniaid oedd Gareth William Jones (trafodaethau) a Jamie Medhurst (cyflwyniadau).

Tra oedd y timau'n cymryd rhan yn y trafodaethau, cafodd y dwsinau o gefnogwyr oedd wedi teithio gyda hwy y cyfle i gael eu diddanu a'u haddysgu gan rai enwau cyfarwydd ym maes llyfrau plant, sef yr awduron Gwyn Morgan ac Elgan Philip Davies, yr arlunydd Siôn Morris a Mei Mac, Bardd Plant Cymru 2001.

Ar ddiwedd diwrnod prysur o gystadlu, a hwnnw o safon hynod uchel, dyfarnwyd y gwobrau fel a ganlyn:

1af: Ysgol Gynradd Edern, Pen Llŷn
2il: Ysgol Gynradd Llanddoged, Llanrwst
3ydd: Ysgol Gynradd Gymunedol Tregaron

Llongyfarchiadau, felly, i Ysgol Gynradd Edern ar ennill y Darian am y drydedd flwyddyn yn olynol, ac i'r holl ysgolion eraill am eu cyfraniadau graenus.

  {(}
{)}