National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
Mewn Print
 
 
Esyllt Owen

Esyllt Owen yn derbyn ei gwobr gan Elfyn Thomas o Gwmni Seren Arian, Caernarfon (chwith), a Geraint Lloyd Owen, Siop y Pentan, Caernarfon (dde).

12 Chwefror, 2001
ENNILL GWYLIAU MEWN CYSTADLEUAETH LYFRAU

Bydd gwraig o Gaernarfon yn cael y cyfle i fwynhau gwyliau arbennig eleni, ar ôl iddi ennill gwobr mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru. Roedd y gystadleuaeth wedi ymddangos yn yr atodiad Llyfrau Gwledd y Nadolig a ddosbarthwyd yn eang drwy rwydwaith y papurau bro.

Yr enillydd oedd Esyllt Owen o Groeslon, Caernarfon. Unwaith eto eleni, noddwyd y gystadleuaeth gan gwmni gwyliau Seren Arian o Gaernarfon.

Cafwyd ymateb arbennig o dda i’r gystadleuaeth, gyda rhai cannoedd o ddarllenwyr y papurau bro drwy Gymru yn ymateb. Roedd dosbarthu’r 80,000 o daflenni yn sicrhau bod y darllenwyr yn derbyn gwybodaeth am y llyfrau a gyhoeddwyd ar gyfer y Nadolig.

‘Mae Gwledd y Nadolig wedi ei hen sefydlu ei hun fel atodiad defnyddiol iawn i’r darllenwyr,’ meddai D. Philip Davies, Pennaeth Marchnata’r Cyngor Llyfrau. ‘ac rydym yn hynod falch o gydweithrediad y cyhoeddwyr, y llyfrwerthwyr, y papurau bro a’r noddwyr wrth roi hwb i lyfrau.’

Am fwy o wybodaeth cysyllter ag:

Elwyn Jones (Swyddog Marchnata)
Cyngor Llyfrau Cymru
Castell Brychan
Aberystwyth
Ceredigion, SY23 2JB
Ffôn: (01970) 624151 2
Ffacs: (01970) 625385
elwyn.jones@cllc.org.uk


  __

  {(}
{)}