National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
Mewn Print
 
 

4 Mawrth, 2002

GWYLIAU YN WOBR

 
Cyhoeddodd y Cyngor Llyfrau mai gŵr o Ynys Môn oedd yr enillydd lwcus yn y gystadleuaeth arbennig a ymddangosodd yn yr atodiad llyfrau Gwledd y Nadolig.
 
Cafodd enw’r buddugol ei gyhoeddi’n fyw ar raglen Dei Tomos a Hywel Gwynfryn ar BBC Radio Cymru, a bu’r ddau gyflwynydd yn sgwrsio gyda’r enillydd, sef John Elphin Jones o’r Talwrn, Ynys Môn.
 
Bydd Mr Jones yn derbyn tocyn gwyliau gwerth £200 i deithio gyda chwmni Seren Arian, Caernarfon, sef noddwyr y gystadleuaeth.
 
‘Dwi wrth fy modd hefo’r wobr,’ meddai Mr Jones, sydd wedi ymddeol o’i waith gyda’r heddlu.  ‘Dwi wedi bod ar wyliau hefo cwmni Seren Arian o’r blaen, ac yn gwybod y caf amser da yn eu cwmni.  Roedd clywed gan Hywel a Dei ’mod i wedi ennill yn dipyn o sioc.’
 
Enw Mr Jones gafodd ei ddewis o’r het ar ôl iddo ateb pedwar cwestiwn yn gywir yn y gystadleuaeth.  Seiliwyd y cwestiynau ar y llyfrau oedd yn ymddangos yn yr atodiad Gwledd y Nadolig.  Roedd y Cyngor Llyfrau wedi argraffu 80,000 copi o’r atodiad, gan eu dosbarthu drwy rwydwaith y papurau bro, yn ogystal ag anfon cyflenwad i lyfrgelloedd a siopau llyfrau ledled Cymru.
 
‘Cawsom ymateb arbennig o dda i’r gystadleuaeth eleni, gyda rhai cannoedd wedi dychwelyd eu hatebion,’ meddai Phil Davies, Pennaeth Marchnata’r Cyngor Llyfrau.  ‘Mae’r atodiad yn boblogaidd bob blwyddyn ac rydym yn falch bod y darllenwyr yn gwerthfawrogi’r cyfle o gael gwybodaeth am lyfrau o Gymru.  Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i gwmni Seren Arian am eu cefnogaeth hael dros y blynyddoedd.’
 
 
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2JB 
T (01970) 624151
F (01970) 625385
E elwyn.jones@cllc.org.uk


  {(}
{)}