|
ENNILL
GWYLIAU (10 Mawrth 2003)
Bydd dyn o Langadog yn cael y cyfle i fwynhau gwyliau ymlaciol
yn y dyfodol agos, yn dilyn ennill cystadleuaeth arbennig
yn atodiad llyfraur Cyngor Llyfrau.
Rhobert ap Steffan o Langadog, Sir Gaerfyrddin, oedd enillydd
lwcus y gystadleuaeth a ymddangosodd yn yr atodiad llyfrau
Gwledd y Nadolig, a ddosbarthwyd yn eang drwy rwydwaith y
papurau bro.
Gosodwyd pedwar o gwestiynau ar gyfer y gystadleuaeth, ac
roedd atebion Rhobert ap Steffan ymysg y cannoedd o atebion
cywir a dderbyniwyd gan y Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth.
Noddwyd y gystadleuaeth gan gwmni teithio Seren Arian, Caernarfon,
ac fe fydd Rhobert yn derbyn tocyn gwyliau yn rhodd gan y
cwmni.
Maer atodiadau llyfrau rydym yn eu cynhyrchu yn
hynod o boblogaidd gydar darllenwyr, meddai Phil
Davies, Pennaeth Marchnatar Cyngor Llyfrau. Cawsom
ymateb arbennig o dda ir gystadleuaeth hon eleni, ac
rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni Seren Arian am eu nawdd unwaith
eto.
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones,
Swyddog Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus,
Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion,
SY23 2JB
T (01970) 624151
F (01970) 625385
E elwyn.jones@cllc.org.uk
|