Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
Mewn Print
 
 

25 Tachwedd 2004

GRANTIAU CYHOEDDI’N DWYN FFRWYTH
 
Cyhoeddodd y Cyngor Llyfrau bod cynnydd yng ngwerthiant llyfrau Cymraeg a Saesneg o Gymru y llynedd yn brawf bod y newidiadau yn system grantiau’r Cyngor a’r arian ychwanegol a ddaeth yn sgil hynny yn dechrau dwyn ffrwyth.
 
Gwnaed y cyhoeddiad cadarnhaol hwn gan Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin ddydd Mercher 24 Tachwedd 2004.
 
Ym maes llyfrau Cymraeg i oedolion bu cynnydd sylweddol yng ngwerthiant nifer o’r categorïau, gan gynnwys Cofiannau (99.63%) a Nofelau (39.53%).  Fe brofwyd cynnydd yng ngwerthiant llyfrau plant dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn sgil datblygiadau megis y cynllun comisiynu awduron mae’n braf gweld bod yr un cynnydd bellach i’w weld gyda llyfrau oedolion.
 
‘Rydym yn hynod falch bod y ffigurau hyn yn profi bod y newidiadau i’r system grantiau i gyhoeddwyr yn llwyddo ac y mae’n glod arbennig i’r cyhoeddwyr eu bod wedi ymateb i’r her ac wedi llwyddo i gynhyrchu llyfrau deniadol ac apelgar,’ meddai Gwerfyl Pierce Jones.  ‘Y sialens i bawb ohonom yw adeiladu ar y llwyddiant hwn i sicrhau bod y diwydiant cyhoeddi yn mynd o nerth i nerth.’
 
Fe welwyd cynnydd tebyg mewn rhai categorïau o lyfrau Saesneg o Gymru yn ogystal, gyda chynnydd arbennig mewn Ffuglen i Oedolion (37.12%) a Barddoniaeth (51.24%).
 
Ychwanegodd Gwerfyl Pierce Jones, ‘Yn ystod y flwyddyn fe gyhoeddwyd adolygiad Llywodraeth y Cynulliad o Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru ac y mae’n braf adrodd am y cynnydd yng ngwerthiant y categorïau hyn.  Dyma faes sydd angen ei ddatblygu ymhellach, ac o gael yr adnoddau angenrheidiol rydym yn sicr y gall y  Cyngor a’r cyhoeddwyr gydweithio i ddatblygu’r ddarpariaeth yn ehangach.’
 
Yn ddiweddar, fe welwyd ymdrech arbennig i hyrwyddo llyfrau’r Nadolig.  Yn ogystal â chyhoeddi’r atodiadau Gwledd y Nadolig a Books from Wales a darlledu cyfres o hysbysebion teledu, fe gynigiwyd grantiau i gyhoeddwyr i gynnal lansiadau uchelgeisiol ac i drefnu teithiau awduron o amgylch y siopau llyfrau.  Bu’n bosib hefyd cael cymorth dau gwmni cysylltiadau cyhoeddus i hyrwyddo teitlau penodol yn y wasg a’r cyfryngau.
 
‘Mae’r system grantiau a’r cynlluniau marchnata newydd yn enghraifft o’r hyn sydd ei angen i gefnogi a datblygu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru,’ meddai Gwerfyl Pierce Jones.
 
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion  SY23 2JB
T (01970) 624151  F (01970) 625385  E elwyn.jones@cllc.org.uk


  {(}
{)}