|
CHWILIWCH
A CHWI A GEWCH!
DEFNYDDIOR WE I CHWILIO AM LYFRAU O GYMRU
Maer datblygiadau diweddaraf ar wefan y Cyngor Llyfrau
www.gwales.com
yn ei gwneud hin haws ir cyhoedd chwilio
a chael gwybodaeth am lyfrau o Gymru yn y ddwy iaith.
Roedd yr hen saflen wych os oedd y darllenydd
yn gwybod am beth roedd yn chwilio, meddai Gwerfyl Pierce
Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, ond maer
datblygiad diweddaraf yn un sylweddol ar bwriad yw helpu
darllenwyr i ddod o hyd ir llyfrau perthnasol ar eu
cyfer. Gallwn ymfalchïo yn y llyfrau a gyhoeddir
yma yng Nghymru ac maen bwysig ein bod yn defnyddior
dechnoleg ddiweddaraf i hwyluso a symleiddior broses
o ddod o hyd iddynt.
Fe welir y prif newidiadau ar dudalen flaen y wefan lle ceir
detholiad arbennig o lyfrau newydd a rhestrau o lyfrau dan
y pennawd Gwerth eu Darllen wedi eu trefnu yn ôl categorïau
ar gyfer plant ac oedolion. Ceir hefyd sylw ir
adolygiadau diweddaraf, a chynigion arbennig, gydar
darllenydd ei hun yn cael dewis a yw eisiau gwybodaeth am
lyfrau plant neu oedolion, yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Ar y dudalen flaen hefyd y mae yna flwch chwilio cyflym ir
darllenydd gael hyd i lyfr mewn modd syml a hwylus, a thrwy
nodi enw awdur neu deitl bydd manylion yn ymddangos ymhen
eiliadaun unig. Fel or blaen, maen
bosib archebu unrhyw lyfr drwyr wefan neu o siop lyfrau
o ddewis y darllenydd.
Nod pob gwefan yw ei gwneud yn syml ir cyhoedd
ddod o hyd i wybodaeth, meddai Phil Davies, Pennaeth
Adran Farchnatar Cyngor Llyfrau. Dyma pam
bod cryn feddwl wedi ei roi i ail-gynllunior wefan,
ac rydym yn credu bod y datblygiadau hyn yn gam mawr ymlaen.
Byddem yn eich annog i gyd i gael golwg ar y wefan ar ei newydd
wedd.
Datblygwyd y wefan gan gwmni Ateb Cyf., gyda chefnogaeth Llywodraeth
Cynulliad Cymru.
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth
a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan,
ABERYSTWYTH, Ceredigion SY23 2JB ( (01970) 624151
2 (01970) 625385 : elwyn.jones@cllc.org.uk
|