Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

GWERTHIANT LLYFRAU'N AILADRODD LLWYDDIANT Y LLYNEDD

Gwelwyd cynnydd eto yng ngwerthiant llyfrau mis Tachwedd o'i gymharu â'r llynedd. Dyna oedd neges gadarnhaol Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, wrth annerch aelodau o'r Cyngor yn ystod eu Cyfarfod Blynyddol ddydd Gwener, 2 Rhagfyr 2005.

'Mae'n rhaid cofio bod y cynnydd o 9.25% (£422,350 o'i gymharu â £386,571 y llynedd) wedi ei gyflawni yn dilyn gwerthiant arbennig iawn ym mis Tachwedd 2004, ac roedd hwnnw'n record i'r Cyngor Llyfrau. Rydym hefyd yn awyddus i sicrhau bod y gwerthiant yma'n parhau drwy fis Rhagfyr.'

Aeth Gwerfyl Pierce Jones yn ei blaen i ddiolch i holl sectorau'r fasnach lyfrau yng Nghymru am eu gwaith caled yn sicrhau'r cynnydd hwn. Yn dilyn derbyn arian ychwanegol o du Llywodraeth Cynulliad Cymru, roedd yr awduron a'r cyhoeddwyr wedi ymateb i'r her gan roi cyfle i'r llyfrwerthwyr gynnig ystod eang o gyhoeddiadau safonol a phoblogaidd oedd yn apelio at y darllenwyr.

Wrth longyfarch y diwydiant llyfrau yng Nghymru, dywedodd Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, 'mae'r buddsoddi a wnaeth Llywodraeth y Cynulliad wrth hybu llyfrau o Gymru wedi dwyn ffrwyth. Bydd lansio cyfres Library of Wales y flwyddyn nesaf yn hwb pellach i'r fasnach gan sicrhau y bydd clasuron Saesneg o Gymru ar gael i'r darllenwyr.'

Yn ystod y cyfarfod cafwyd teyrnged gan Gwerfyl Pierce Jones i Alun Creunant Davies, cyn-Gyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, a fu farw'n ddiweddar. 'Roedd Alun yn ganolog a blaenllaw yn natblygiad y diwydiant llyfrau yng Nghymru yn y dyddiau cynnar, ac yr oedd bob amser yn ymfalchïo bod y diwydiant yn mynd o nerth i nerth,' meddai Gwerfyl Pierce Jones. 'Hoffwn feddwl y byddai'n falch o wybod bod yr ysbryd arloesol y bu'n rhan ohono yr un mor fyw heddiw ag erioed.'

Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB
Ffôn (01970) 624151 Ffacs (01970) 625385 Ebost elwyn.jones@cllc.org.uk


  {(}
{)}