|
18
Ionawr , 2002
CYNNYDD YNG NGWERTHIANT LLYFRAUR NADOLIG
Bur
wythnosau cyn y Nadolig yn gyfnod prysur iawn yn y siopau
llyfrau ledled Cymru, gyda chynnydd sylweddol yng ngwerthiant
llyfrau drwy Ganolfan Ddosbarthur Cyngor Llyfrau.
Roedd ffigurau gwerthiant y Ganolfan ar gyfer mis Rhagfyr
2001 yn dangos cynnydd o 25% ar werthiant mis Rhagfyr
2000, gyda gwerthiant Tachwedd a Rhagfyr gydai
gilydd yn dangos cynnydd o dros 12% ar y flwyddyn flaenorol.
Rydym wedi gweld cynnydd cyson yn ffigurau gwerthiant
llyfraur Nadolig, meddai Phil Davies, Pennaeth
Adran Farchnatar Cyngor Llyfrau, ond roedd
y cynnydd eleni yn arbennig iawn, ac yn golygu mai dymar
Tachwedd/Rhagfyr gorau erioed yn hanes y Ganolfan Ddosbarthu.
Roeddem yn ymwybodol bod yna nifer o lyfrau poblogaidd
iawn wedi ymddangos ac y byddent yn sicr o werthu dda.
Maen amlwg bod yr holl ddarllenwyr wedi gwerthfawrogir
dewis oedd yn cael ei gynnig gan y cyhoeddwyr. Bur
flwyddyn ddiwethaf yn un anodd i nifer o gyhoeddwyr
a llyfrwerthwyr wrth i argyfwng clwyr traed-ar-genau
arwain at ostyngiad yng ngwerthiant llyfrau dros y gwanwyn
ar haf. Fe fydd y cynnydd hwn yng ngwerthiant
llyfraur Nadolig, felly, yn cael ei groesawu gan
y diwydiant llyfrau yma yng Nghymru.
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Swyddog
Marchnata, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth,
Ceredigion, SY23 2JB
(01970) 624151
(01970) 625385
Ebost: elwyn.jones@cllc.org.uk
|