National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
Mewn Print
 
 
LLOND SACH O LYFRAU AR GYFER Y NADOLIG

Mae cyhoeddwyr Cymru wedi bod yn brysur iawn yn paratoi gwledd o lyfrau ar ein cyfer y Nadolig hwn. Fel rhan o’r ymgyrch hyrwyddo, mae’r Cyngor Llyfrau wedi paratoi dau atodiad deniadol i roi sylw i’r holl lyfrau, yn ogystal â chynhyrchu cyfres o hysbysebion i roi sylw i lyfrau penodol. Darlledir y rhain ar S4C yn ystod mis Rhagfyr.

Mae’r atodiad Gwledd y Nadolig yn canolbwyntio ar y dewis eang o lyfrau Cymraeg, gan gynnwys teitlau ar gyfer y plant lleiaf, pobl ifanc ac oedolion. Argraffwyd 80,000 copi o’r atodiad, ac y mae wedi cael ei ddosbarthu’n eang drwy rwydwaith y papurau bro, yn ogystal ag i’r holl siopau llyfrau a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Mae’r atodiad eleni yn cynnwys gwybodaeth am 180 o lyfrau gan 20 o gyhoeddwyr, ac mae 21 o siopau llyfrau wedi hysbysebu ynddo hefyd. Fel rhan o’r atodiad, fe drefnwyd cystadleuaeth arbennig, gyda’r enillydd yn derbyn gwobr o docyn gwyliau gwerth £200 yn rhodd gan gwmni teithio Seren Arian o Gaernarfon.

'Rydym yn gwybod pa mor awyddus mae’r darllenwyr i gael copïau o’r atodiad er mwyn cael gwybodaeth am yr holl lyfrau newydd,’ meddai Phil Davies, Pennaeth Adran Farchnata’r Cyngor Llyfrau. ‘Unwaith eto, mae’n rhaid diolch i’r cyhoeddwyr am baratoi dewis mor dda ar ein cyfer.’

Bydd yr atodiad Books from Wales, sy’n cynnwys gwybodaeth am lyfrau Saesneg o Gymru, yn cael ei ddosbarthu gyda rhifyn dydd Gwener, 30 Tachwedd o’r Western Mail. Mae’r atodiad 8 tudalen yn cynnwys gwybodaeth am lyfrau gan 14 o gyhoeddwyr.

I goroni’r cyfan fe fydd yr ymgyrch hysbysebion ar y teledu yn cynnwys detholiad o lyfrau Cymraeg a Saesneg a ddewiswyd yn ofalus i apelio at wahanol oedrannau. Does dim dwywaith y bydd digon o ddewis o lyfrau ar gael y Nadolig hwn, gan ei gwneud yn bosibl i bawb anfon anrhegion difyr a defnyddiol i’w gilydd.

Am fwy o wybodaeth cysyllter ag:
Elwyn Jones,
Swyddog Marchnata,
Cyngor Llyfrau Cymru,
Castell Brychan,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 2JB

(01970) 6241512
(01970) 625385

elwyn.jones@cllc.org.uk


  {(}
{)}