6
Chwefror 2002
RHOI SYLW I WLEIDYDDIAETH
CYMRU
Er bod llai o bobl yn pleidleisio mewn etholiadau y dyddiau
hyn, mae mwy o lyfrau nag erioed yn cael eu cyhoeddi am y pwnc.
Maen briodol, felly, bod y daflen wybodaeth ddiweddaraf
iw pharatoi gan y Cyngor Llyfrau yn rhoi sylw i lyfrau
ym maes Gwleidyddiaeth a Materion Cyfoes. Maer daflen
ddwyieithog atyniadol yn cynnwys 48 o deitlau amrywiol yn Gymraeg
ac yn Saesneg.
Mae ystod eang o lyfrau yn cael eu cynrychioli, o astudiaethau
arbenigol i gofiannau a hunangofiannau, ac o lyfrau ffeithiol
i gyfrolau pryfoclyd ar sawl agwedd o wleidyddiaeth.
Mae rhychwant y detholiad yn dyst ir cynnydd sydd
wedi bod yn y maes yma yn ystod y blynyddoedd diweddar,
meddai Elwyn Williams, Swyddog Cynllun Ymestyn y Cyngor Llyfrau.
Nid teitlau academaidd iw hastudion unig a
geir ond, yn hytrach, toreth o waith cyfoes a darllenadwy ar
gyfer yr arbenigwyr ar lleygwyr fel ei gilydd.
Cyhoeddwyd y daflen dan adain Cynllun Ymestyn y Cyngor, ac ers
sefydlur cynllun hwnnw yn 1995, fe gyhoeddwyd cyfres o
daflennin hyrwyddo cyhoeddiadau mewn meysydd penodol.
Maer taflennin ategu prif waith y Cynllun, sef hyrwyddo
gwerthiant llyfrau mewn digwyddiadau o bob math yng Nghymru
a thu hwnt, ac fei cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Rydym yn ddiolchgar ir cyhoeddwyr am eu cefnogaeth
wrth baratoir daflen, ychwanegodd Elwyn Williams,
ac rydym yn gobeithion fawr y bydd yn fodd i roi
sylw ychwanegol ir llyfrau ac i hybur gwerthiant.
Maer daflen ar gael drwyr siopau llyfrau ledled
Cymru neu drwy gysylltu ag Elwyn Williams yn Adran Farchnatar
Cyngor Llyfrau ar Aberystwyth (01970) 624151 neu e-bost elwyn.jones@cllc.org.uk
|