Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

ENILLWYR GWOBRAU’R DIWYDIANT CYHOEDDI

Cyhoeddwyd enwau enillwyr cyntaf Gwobrau’r Diwydiant Cyhoeddi mewn seremoni arbennig yn Aberystwyth, a chyflwynwyd y gwobrau gan Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon.
 
Yr enillwyr oedd:
 
Llyfrau Cymraeg
 
Gwerthwr Gorau – Ffuglen
Un Diwrnod yn yr Eisteddfod
Robin Llywelyn, Gomer
 
Gwerthwr Gorau – Barddoniaeth
Hoff Gerddi Nadolig Cymru
gol. Bethan Mair, Gomer
 
Gwerthwr Gorau – Heb fod yn Ffuglen
Y Dyn 'i Hun
Hywel Gwynfryn, Gwasg Gwynedd
 
Gwerthwr Gorau – Plant
Jac y Jwc ar y Fferm
Dylan Williams a Gordon Jones, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion
 
Y Llyfr a Fenthycwyd Amlaf o Lyfrgell
Y Dyn yn y Cefn heb Fwstásh
Eirug Wyn, Y Lolfa


Llyfrau Saesneg o Gymru
 
Gwerthwr Gorau – Ffuglen
Sexy Shorts for Summer
gol. Hazel Cushion, Accent Press
 
Gwerthwr Gorau – Barddoniaeth
The Hare that Hides Within
gol. Anne Cluysenaar & Norman Schwenk, Parthian
 
Gwerthwr Gorau – Heb fod yn Ffuglen
Welsh Valleys’ Humour
David Jandrell, Y Lolfa
 
Gwerthwr Gorau – Plant
A Wartime Scrapbook
Chris S. Stephens, Pont Books/Gomer
 
Y Llyfr a Fenthycwyd Amlaf o Lyfrgell
Sexy Shorts for Summer
gol. Hazel Cushion, Accent Press
 

‘Roedd y seremoni’n llwyddiant ysgubol,’ meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, ‘ac wrth longyfarch y cyhoeddwyr unigol rydym yn cydnabod y datblygiadau cyffrous diweddar o fewn y fasnach lyfrau yng Nghymru.’
 
Noddwyd y gwobrau gan y sefydliadau canlynol – Gwasanaethau Cyfrifiadurol VISTA, Awdurdod Datblygu Cymru, Western Mail, StrataMatrix a CILIP Cymru.

Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion  SY23 2JB  T (01970) 624151 F (01970) 625385 E elwyn.jones@cllc.org.uk


  {(}
{)}