|
CYFLWYNO
GWOBRAU LLYFRAU PLANT
Cyflwynwyd Gwobrau Tir Na n-Og ar 18 Hydref gan Alun Pugh,
y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, mewn
seremoni arbennig yng Nghaerdydd.
Fe gyflwynir y Gwobrau, o £1,000 yr un, yn flynyddol
gan Gyngor Llyfrau Cymru a CILIP Cymru i anrhydeddu gwaith
awduron a dylunwyr llyfrau plant. Yr enillwyr eleni yw:
GWOBR
FFUGLEN ORAUR FLWYDDYN
Eco, Emily Huws
(Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) Aberystwyth
Nofel ar gyfer plant 9-12 oed yw hon, yn portreadur
tensiynau ym mywyd cythryblus Blodyn Haf ai mam
syn eco-ryfelwraig. Dymar trydydd tro
i Emily Huws ennill Gwobr Tir na n-Og. |
 |
GWOBR
AM LYFR GORAUR FLWYDDYN AC EITHRIO FFUGLEN
Byd Llawn Hud
(Gomer) Llandysul
Cyfrol o ugain o gerddi newydd am helyntion plant â
byd natur, ffrindiau a theulu gan feirdd cyfoes yn cynnwys
Mererid Hopwood (Bardd Plant Cymru 2005/06), Tudur Dylan
a Ceri Wyn Jones. Maer gyfrol wedi ei dylunion
hardd gan Chris Glynn. |
 |
GWOBR
LLYFR SAESNEG GORAUR FLWYDDYN
The Seal Children, Jackie Morris
(Francis Lincoln) Llundain
Stori hudolus wedi ei darlunion chwaethus i ddarllenwyr
7-9 oed yn adrodd chwedl werin am hanes hanner-merch a
hanner-morlo syn dwyn gwaredigaeth i drigolion pentref
unig. Dymar ail dro i Jackie Morris ennill
Gwobr Tir na n-Og. |
 |
Dywedodd
Alun Pugh, y Gweinidog Diwylliant, Mae llyfrau deniadol
o safon yn hanfodol i hybu plant a phobl ifainc i fwynhau
darllen. Rwyn hynod falch o gael bod yma heno
i anrhydeddur enillwyr ym maes llyfrau plant yng Nghymru.
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth
a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan,
ABERYSTWYTH, Ceredigion SY23 2JB T (01970) 624151
F (01970) 625385 E elwyn.jones@cllc.org.uk
|