Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

CYNRYCHIOLI’R CYNGOR LLYFRAU
 
Mae’r Cyngor Llyfrau wedi penodi Heledd Bianchi yn aelod o’r tîm o gynrychiolwyr sy’n ymweld â’r siopau llyfrau.
 
Mae Heledd, sy’n enedigol o Geredigion ond a faged yng Nghaerdydd, eisoes wedi dechrau ar ei dyletswyddau fel cynrychiolydd y Cyngor yn ardal y de-ddwyrain.
 
Cafodd Heledd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd, cyn mynd i Goleg y Drindod, Caerfyrddin, i ddilyn cwrs mewn Astudiaethau Theatr.  Bu’n perfformio gyda Chwmni Theatr mewn Addysg Arad Goch ac yn ymchwilydd ar raglen deledu S4C, Planed Plant, yn ogystal â threulio cyfnod yn gweithio dramor.  Y mae Heledd bellach yn byw yn y Barri.
 
‘Rwy’n mwynhau’r gwaith o ymweld â’r siopau llyfrau yn fawr iawn,’ meddai Heledd, ‘ac mae’r dull o gyflwyno gwybodaeth am yr holl lyfrau ar sgrin fy nghyfrifiadur yn hwyluso’r gwaith yn arw.’
 
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones,
Swyddog Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus,
Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB
T (01970) 624151
F (01970) 625385
E elwyn.jones@cllc.org.uk


  {(}
{)}