Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

27 Tachwedd 2003

AIL-LANSIO’R CYNLLUN TOCYNNAU LLYFRAU

 
Mae’r Cyngor Llyfrau newydd ail-lansio eu Cynllun Tocynnau Llyfrau drwy ail-ddylunio’r tocynnau a chyhoeddi cyfres newydd o gardiau lliwgar a deniadol. Y mae Cynllun Tocynnau Llyfrau’r Cyngor wedi ei hen sefydlu, a thros y blynyddoedd bu miloedd o bobl yn manteisio ar y cynllun gan weld y tocynnau’n anrheg ddelfrydol.
 
‘Ambell waith y mae’n anodd dewis yr union lyfr i blesio perthynas neu ffrind,’ meddai Phil Davies, Pennaeth Adran Farchnata’r Cyngor Llyfrau, ‘ac y mae’r tocynnau llyfrau wedi bod yn ffordd hwylus o roi’r cyfle i’r person wneud y dewis drosto’i hun.’
 
Am fanylion pellach cysyllter ag:  Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2JB
T (01970) 624151  F (01970) 625385  elwyn.jones@cllc.org.uk


  {(}
{)}