National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
Mewn Print
 
 

24 Mawrth, 2005

APWYNTIO CYHOEDDWR I GYNLLUN ‘LIBRARY OF WALES’
 
Cyhoeddwyd datblygiad pwysig yng nghynllun Library of Wales heddiw gydag apwyntio cwmni Parthian o Aberteifi fel cyhoeddwr ar gyfer y gyfres.
 
Mae’r Library of Wales yn gynllun cyffrous ac uchelgeisiol a fydd yn dod â rhestr o glasuron Saesneg o Gymru yn ôl i brint.  Bydd y rhestr gychwynnol – a anelir at ddarllenwyr – yn cynnwys cyfrolau gan Gwyn Thomas, Raymond Williams a’r nofelydd o’r Rhondda, Ron Berry.  Bydd y pum llyfr cyntaf yn y gyfres yn cael eu cyhoeddi fis Ionawr 2006.

Yn darllen y clasuron (o’r dde) gydag Alun Pugh, Y Gweinidog Diwylliant, mae’r Athro Dai Smith, Elwyn Jones o’r Cyngor Llyfrau a Richard Davies, Parthian.
 
‘Mae llawer o’r gwaith gorau gan awduron o Gymru wedi bod allan o brint am gyfnod llawer rhy hir,’ meddai Kirsti Bohata ar ran y Cyngor Llyfrau, sy’n goruchwylio’r cynllun.  ‘Mae’r cynllun uchelgeisiol hwn nid yn unig wedi ei anelu at y farchnad addysgol, ond bwriedir hefyd iddo greu argraff ar ddarllenwyr yng Nghymru a thramor.  Rydym yn ffyddiog y bydd y cyhoeddusrwydd yn hwb pellach i ysgrifennu Saesneg o Gymru.’
 
Trafodwyd y syniad am y tro cyntaf yn ystod Arolwg Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol o Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru a’i gefnogi gydag arian ychwanegol gan Lywodraeth y Cynulliad. Dywedodd Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, yr iaith Gymraeg a Chwaraeon: 'Mae Library of Wales yn gyfle gwych i ni ddathlu ein treftadaeth lenyddol. Nid astudiaethau academaidd, sych, yw’r llyfrau hyn, ond yn hytrach gweithiau o ddiddordeb cyffredinol a fydd yn apelio at ddarllenwyr ar sawl lefel. Bydd y Library of Wales yn ailgynnau diddordeb yn ein clasuron llenyddol ac yn rhoi sylw pellach i ysgrifennu Saesneg o Gymru.'
 
Bydd yr Athro Dai Smith yn gweithredu fel Golygydd y Gyfres gan arwain ar y dewis o deitlau a chomisiynu cyflwyniadau arbennig i bob llyfr.  Dywedodd: ‘Bydd Library of Wales yn cadw mewn print ein llenyddiaeth Saesneg o Gymru mewn dull a fydd yn cysylltu’n gorffennol a’n dyfodol.  Fe fydd yn arf bwysig yn y broses o ddeall ein hunain ac o hyrwyddo Cymru.  Bydd y byd yn dod i ddeall sut yr ydym yn cynnal ein gorffennol drwy ein llenyddiaeth, a chaiff gyfle i rannu yn ein cyfoeth.’
 
Ychwanegodd Dr Richard Davies, Cyfarwyddwr Parthian: ‘Rydym yn hynod falch o gael ein dewis i weithredu’r cynllun pwysig hwn.  Edrychwn ymlaen at y sialens o gyhoeddi cyfres arbennig o lyfrau fydd yn cynrychioli peth o’r ysgrifennu gorau a gynhyrchwyd yng Nghymru.  Maent yn llyfrau ardderchog ac rydym yn awyddus i’w gweld yn cael eu darllen a’u mwynhau.’
 
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion  SY23 2JB T (01970) 624151  F (01970) 625385  elwyn.jones@cllc.org.uk
 
Neu cysylltwch â’r Athro Dai Smith (01446) 721064 neu Parthian – Dominic Williams (07773) 554857


  {(}
{)}