Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

ADFYWIO CLASURON ANGHOFIEDIG GORFFENNOL LLENYDDOL CYMRU
 
Mae prosiect Cymreig newydd yn defnyddio pw?er y Rhyngrwyd i adfywio clasuron llenyddol.  Mae Llyfrau o’r Gorffennol, a ddatblygwyd gan Culturenet Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru gyda nawdd oddi wrth Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn defnyddio’r dechnoleg arloesol ddiweddaraf i ddod â hen destunau’n fyw.
 
O 17 Mai ymlaen bydd ymwelwyr â’r wefan www.llyfrau.org yn gallu darllen a mwynhau ystod o deitlau allan o brint sydd o ddiddordeb Cymreig.  Gall y wefan arddangos pob teitl fel tudalennau o destun electroneg neu fel sganiadau o’r llyfr gwreiddiol.  Yn defnyddio technoleg arloesol, mae Llyfrau o’r Gorffennol yn cynnig defnydd hawdd i’r defnyddiwr.  Mae’r llyfrau’n hawdd i’w llywio, mae modd chwilio pob gair yn llawn a gellir darllen y llyfr ar-lein, ei lwytho i lawr neu ei argraffu er mwyn ei ddarllen yn eich amser eich hunan.
 
Ymhlith y naw teitl ar y safle cychwynnol ceir teitlau megis – Caniadau, John Morris Jones, Teulu Bach Nantoer gan L. M. Owen (Moelona), The Adventures and Vagaries of Twm Shon Catti gan T. J. Llywelyn Prichard a Change gan J. O. Francis.  Bydd y teitlau sydd ar gael yn cynyddu dros y flwyddyn nesaf wrth i Lyfrau o’r Gorffennol barhau i ddod â gorffennol llenyddol Cymru i’r Rhyngrwyd, er mwyn i genhedlaeth newydd ei fwynhau.
 
Mynegodd Allison Coleman, Cyfarwyddwr Culturenet Cymru, ei balchder y byddai rhai gweithiau hynod ar gael i gynulleidfa ehangach eu mwynhau – “Mae’r prosiect hwn yn dangos sut ellir defnyddio technoleg mewn ffyrdd arloesol i ddiogelu ein treftadaeth a chynyddu mynediad i bawb . . . yn y pendraw mae’n bosibl y bydd Llyfrau o’r Gorffennol yn darparu llyfrgell bersonol i bob defnyddiwr cyfrifiadur yng Nghymru."
 
Ychwanegodd Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru, “Mae hwn yn gynllun cyffrous a fydd maes o law yn rhoi mynediad byd-eang i ystod cyfoethog o lyfrau o Gymru, llyfrau sy’n annhebyg iawn o ddod yn ôl i brint trwy ddulliau traddodiadol.  Bydd Llyfrau o’r Gorffennol yn adnodd gwerthfawr i fyfyrwyr, ymchwilwyr ac i ddarllenwyr cyffredin hwythau.”
 
Cynhaliwyd lansiad y prosiect cyffrous hwn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 19 Mai.  Roedd y digwyddiad yn cynnwys taith o amgylch y wefan ac anerchiadau gan Elin Jones AC a John Woods, Prif Lyfrgellydd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont.

 


  {(}
{)}