National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
Mewn Print
 
 

12 Gorffennaf 2002

ATODIAD LLAWN O LYFRAU’R HAF
 
Mae’r Cyngor Llyfrau wedi cyhoeddi’r atodiad lliwgar Llyfrau’r Haf unwaith eto eleni, ac mae’n cynnwys gwybodaeth am y llyfrau diweddaraf i’w cyhoeddi.
 
‘Yr atodiadau llyfrau yw rhai o’n cyhoeddiadau pwysicaf,’ meddai Phil Davies, Pennaeth Adran Farchnata’r Cyngor Llyfrau.  ‘Rydym yn ymwybodol bod y darllenwyr yn edrych ymlaen at gael pori drwyddynt, er mwyn cael gwybodaeth am y teitlau diweddaraf.’
 
Yn dilyn llwyddiant yr atodiad y llynedd, mae’r cylchrediad wedi ei gynyddu eleni i 50,000 o gopïau, ac maent eisoes wedi eu dosbarthu drwy rwydwaith y papurau bro.  Fe fydd copïau ar gael hefyd ar unedau’r Cyngor Llyfrau yn y Sioe Amaethyddol a’r Eisteddfod Genedlaethol.
 
Mae bron i 100 o deitlau’n cael eu nodi yn yr atodiad, sydd yn cynrychioli gwaith 13 o’r prif gyhoeddwyr.  Fe welir hefyd bod yr atodiad yn cael ei gefnogi gan nifer o siopau llyfrau ledled Cymru.
 
‘Mae’r atodiad yma yn enghraifft wych o gydweithio rhwng y cyhoeddwyr, y llyfrwerthwyr a’r Cyngor Llyfrau,’ ychwanegodd Phil Davies,  ‘ac mae’n gyflwyniad rhagorol i’r llyfrau newydd sydd ar gael.’
 
Derbyniodd y Cyngor Llyfrau nawdd hael gan BT tuag at yr atodiad, ac mae hyn wedi sicrhau bod mwy o gopïau nag erioed wedi eu cynhyrchu.
 
Os nad ydych wedi derbyn copi o’r atodiad, gallwch gysylltu â’ch siop lyfrau leol neu ag Adran Farchnata’r Cyngor Llyfrau ar (01970) 624151 i sicrhau eich copi.  Mae manylion yr holl lyfrau yn yr atodiad hefyd i’w gweld ar wefan www.gwales.com y Cyngor Llyfrau.
 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag:
Elwyn Jones, Cyngor Llyfrau Cymru: 01970 624151
Bethan Gwanas: 01341 450230
Uned 5: 01286 678592
Ysgol Dyffryn Teifi: 01559 362310


  {(}
{)}